[][][]

FLORES [...]OETARUM BRITANNICORUM Sef Blodeuog waith y Prydyddion Bryttannaidd.

O gasgliad J. D. SS. Th D. fal yr y dys yn teby gu.

Y Cymru mwyr [...]on cym'rwch, y Llyfr hwn
H [...]l frod [...]r darllenwch;
Di far yw a difyrwch,
A liawn Lûdd, ond el i'r llwch.
O, beia [...]eb w [...]th ysbio, beie [...],
[...] na bwyf yn gwrando,
Bydded fwyn, beied [...]ynno,
Beied a difeied fo.

Printiedig yn y Mwythig, gan T. Jones dros D. Lewys. 1710.

Llythyr at y Darllenydd.

[]
Y Cymro diledryw,

YN gymmaint a dyfod i'm llaw, y casgl [...] ad hwn, o eiddo'r Dysgedig, a'r Parc [...] edig Ddoctor, J. Dafis hŷd a'r ddeallais, a a [...] wodd ef. Flores Poetarum Britannicorum mi dybiais yn fuddiol eì Brintio; yn gyst [...] er mwyn ei Awdwr Parchedig, (yr hwn [...] haeddodd fwy ar law pob Cymro. nag a al [...] ont fyth dalu'r pwyth iddo) ic er mwyn y Llys [...] ei hun [...]r hwn sŷdd yn cynnwys llawer [...] Ddysgeidiaeth, a Chelfydddŷd. Myfi chw [...] nega [...]s ychydig atto, ac a osodais rai peth [...] bûddiol eraill allan gydâg ef. Gobeithio [...] bydd yn anghymmer adwy gennyt, gan fy [...] yn gwybod hyn; os na wna ddaioni, na [...] chwaith mo'r niwaid itti. Os bydd neb [...] farnu a chablu, hyn a dd'wedaf. Na fa [...]ne [...] nes deall, dealled a barned, Os derby [...] hyn o'm poen a'm llafur, f' allai (os Du [...] a'i myn) mewn amser, y cei ychwaneg.

Yr eiddot yn yr Arglwydd, Dafydd Lewys.

FLORES POETARUM BRITANNICORUM

[1]

Y ddau Addaf. Adami duo.

DAu Addaf oedd dydd a-fu,
Od air weithian i draethu;
Un diriaid enw daiarol.
Un o Nef, awn yn ei ôl.
Trown yngod, rhag trin angall
Yr holl lu, o hwn i'r llall.
Raff. R.
"Un Adam ddinam i'w ddydd, a'n gwthiodd
"I gaethfyd tragywydd,
"Ag a [...]l Adam, gweledydd,
"Ar bren croes a'n rhoes yn rhydd

Gweniaith. Adulatio.

Na chredwch air gwych rhydeg,
Antur o dwyll ond trwy deg.
Gwenwyn ni wn gan un Iaith.
Mwy na gwenwyn, mewn gweniaith.
T.A.

Adeilad ar y graig mdar y tywod Edificandum in Solido, non in are [...]â.

Adeilad trwch, ar dâl traeth,
Dŵr a'i bawdd, drwy wybyddiaeth.
Llunia adai [...], lle nodir,
Lle nid êl, y llanw i dir.
W. LL.

Oedran a phara petheu Bydol a phetheu Nefol. Aetates & durationes rerum.

[]
TRi oedran hoywlan helynt.
Trioedd a fu gyhoedd gynt.
Tri oed pawl Gwern a fernir,
Ar Gi da mewn Erwgoed ir.
A thri oed Ci, iaith hoywryw,
Ar Farch, da ei barch er byw.
Tri oed march dihafarchdroed,
Ar Wr, ond bychan yw'r oed?
Tri oed Gŵr herwr hoywrym,
Ar yr Hŷdd, llamhidydd llym.
Tri oed Carw hwyrfarw, hirfa [...],
Ar Fwyalch goed, eurfalch ga'n.
Tri oed y Fwyalch falchdeg,
Ar Dderwen mewn Dairen deg.
Teir oes Derwen a enwir,
O Warrant hên ar Rwnn tir.
Er hyd oes Dâr iw harwain,
Byr para'r hwya o'r rhain.
Pob un o hyn rhwyfyn rhôd,
A dderfydd yn ddiarfod.
"Nid gwiw i neb wrth'nebu,
"Mor ing y daw'r Angeu du.
"Angeu ni âd yn angof,
"Na gwyllt na diwyllt na dôf.
Ni a gweision Iô [...] gwiw syth,
[3]Y gwr fry, a bery byth;
Yn y Nef yn Bendefig,
Heb drang [...] heb orphen a drig;
Heb liw nos gwiwnos ganu,
Heb fwg, heb dywyllwg du.
Iechyd heb orfod ochain,
O Glwyf mor iached â'r Glain.
Pawb yn ddengmlwydd, arwydd Iôr,
Ar hugain, heb ddim rhagor.
Lle mae pob prif ddigrifwch,
A Phlâs ein Pennadur fflwch.
Gochel uffern gethern gaeth,
A'i helwyr, drwy hŷ alaeth.
Lle mae'n barod, cyfnod câs,
Bacheu, cigweinieu gwynias:
A'r Ei [...]y gwynn, cyn cannoed,
A'r Jâ ni thoddes erioed.
A magleu, rhwydeu mal rhod,
Megineu, Peirieu parod.
Awn bob ddau â golauad,
I Eglwys Duw [...]ein glwys Dad,
A thalwn, (pam na thel [...]r,)
Offrwm a degwm o dir.
Iolo.

Ceraint. Amici, Clientes, & cognati in precio habendi.

GWŷr a wna'r gŵr yn wrol.
Gŵr a wna gwŷr yn ei ôl. Llo.
[4]Gwr a wella'r gwyr wellwell,
A gwyr a wna'r gwr yn well.
D. N.
Naws Carennydd nis crina,
Cywir a dwys, fydd Câr da.
Gwell ydyw, ac o llidir,
Gâr yn d'ol nag Aur neu Dir.
S. T.
Tr [...]wch o wenwyn, trwy 'ch iawnwaed,
Triagl yw gwynt arogl gwaed.
T. A.
A garo lladd ei Geraint,
A gyll ei frig oll a'i faint.
Jor F.
A dreisio 'i wyr a'i drassau,
A all yn hawdd oll wanhau.
W. LL.
Crin yw dyn. câr ni'dwaenir,
Nid câr da, ond Acr o dir.
S. T.
A fo balch ef â heb wyr.
D. N.

Cas Ceraint. Amicorum discordia. Lingua cohibenda.

Càr yn cyhuddo arall,
Hawdd i'r llaw, gyhuddo'r llall.
Noethed bawb, nith [...]ed heb wir,
Fai gilydd, ef a goelir.
Gair a drig ar y drygwaith,
A'i liwio'r gwaed lawer gwaith.
Cywilydd câr dros arall,
O bai wir llwyr yw bai'r llall.
Attal saeth nid dilys ynn.
A [...]l unwaith o linyn.
T A.

Adfyd a Gwrthwyneb. Afflictio purgat.

[5]
A nithio gloyw wenith glân,
Y llerr oll a yrr allan.
O. G.

Cariad, Ofn, Glewyd. Amor, Metus, Fortitudo.

TRrwy eiricu llid, y try'r llaill,
Trwy gariad, y trig eraill.
H. D.
Ofn dy lu o fewn dy wlad,
Etto goreu i ti gariad.
Gwell yw bodd, a gallu byw,
Na dwyn swydd, dyn sy heddyw.
T. A.
Gwell rhy draws heb gydnaws gwan,
Yn rhyw dro, na rhy druan.
Argoel yw, ni lywir gwlad,
Oni cheir, ofn a chariad.
Da yw'r maen lle bai dair mil,
Yngod gydâ'r Efengil.
R. Ll. R R.
Na phar d'ofn Offeiriad wyd.
T. A.
Ni mynn cariad ei wadu,
Na'i ddangos i lios lu.
D. G.
Mae'r Ddihareb mo'r ddirras,
Na bu gu iawn na bai gas.
I. Deul.
I'r pant y rhed y dwr. Aquae defluunt
Y dwr pûr a red i'r pant.

Crefft. Ars.

[6]Gwell yw Crefft meddir. hir hûd,
Na Gwylan, Befr, na Golud.
D. G.

Cybydd-dod, Eluseni, Haelioni. Avaritia, Eleemosyna, Liberalitas.

C [...]ino dŷn yw cronni da.
T. A.
Na àd drachwant yn drechach,
Nid y [...]'r byd onid awr bach.
S. T.
Cymmer drwy wychder dy ran,
Gad i eraill gadw arian.
T. A.
Iawnach i Gybydd enwir,
Garu Duw nag Erw o dir;
A phrynu Nef trwy lefair,
Gan Diawd er Cerdawd y cair.
Pryned ddyn prin oed ei ddydd,
A'i dda, Nef iddo'n ufydd,
Beth a dâl onid dialedd,
Da'r byd wrth fyned i'r bedd?
M. R.
Colli'r clustiau cau cedyrn
Cilwg hir, cyn cael y Cyrn.
G. Gr.

Drygfoes. Audacia. Inverecundia

Ef ai'r Afr wrth ei ffafriaw,
O [...]l o'r drws, ir Allor draw,
L-Mon.

Antur. Ausus.

Ni chafad prŷd na chyfoeth,
Trin ddwys heb anturio'n ddoeth.
B. Br.

Ymdrech y cnawd a'r Yspryd. Carnis & Spiritus pugna.

[7]
Y margio'm blino'n ddwy blaid,
Mae yno 'nghorph am Enaid.
Yr Enaid ni châr ronyn,
Garo y Corph, gorwag gwyn
Ni fyn y corphyn pe caid,
Iddo a fynno f'enaid.
F'enaid, o caid, a fyn cael,
Fwyd o Nef dan ei afael.
Y corph a fynn, heb nac-cau,
Gael iddo, win a Gwleddau.
Yr Enaid, yn wirionnach,
A dan y byd, fal dyn bach:
Y corph a fynn a'r llyn llawn,
Ragoriaeth, ar y gwiriawn,
Chwannog yw'r corph bywiog bach,
[...] feddwi, a chyfeddach:
Gofyn y mae am gyfedd,
Gofyn mae, drachgefn y medd,
L. G.

Crist yw e [...]n ceidwad. Christus unicum Sacrificium & u [...]ica salus. Ejus Vulnera.

Nid oes offrwm, trwm yw'r tro,
[...]en Duw ufydd, ond efo
R. R.
Goreu pardwn, gwn a gaîd,
[8]Gwaed yr Oen, gadw'r enaid.
S. T.
Ceisio gwilio, pob gweli,
Ar Dduw Nef, yr oeddwn i;
Un man cyfan nis cefals,
Heb gael ei waed, a heb glais.
J. B. hir.
"Ni all Angel penfelyn,
"Na llu o saint, ddim lles yn;
"Na neb ond un a'i aberth,
"A roes i ni, Râs a nerth.
G. J. Ll. F.
"Pwy ar ôl a ddûg ddolur,
"Er tynnu pawb o'r tân pûr?
"Ni fydd yn yr oes a fo,
"Un Brenin, mwy a'n pryno.

Y Nef. Caelum .vi. Aetates, & Mors

Da yw Nef, ir dyn afiach
A da yw Nef, i'r dyn iach,
L. G.

Cyttundeb. Concordia.

Da'r ardd Ychen, mewn pen pant,
A chyttun, o chydtynnant
W. Ll.
Cymmer resswm, trwm bod rhôch,
A dod resswm, da drossoch.
T. A.

Cyngor. Consilium.

Bwrw tŷ sy well, Brutus hâd,
O gyd alw, nâg ad [...]ilad·
T. A.
[9]Gwîr diau caiff. gwrda call,
Gyngor gan un llesg angall.
S. T.
Llew enwog, gallai annoeth,
Ynghwrr dysg, gynghori doeth.
S. T.
Ef a gaid dysg, fagad hardd,
Gan ynfyd, ac unionfardd.
T. A.
"O rhoi gyngor, rhag angen,
"Edrych bwy, a droech ei ben.
"O gell [...] roi i gall ran,
"Ac i angall, nâg yngan.
"Deall y gair, diwall gwych
"Gwna d'atteb, cyn y dwettych.
"Gwilia byth, beunydd lle bych,
"Yn ddîddad [...], a ddywedych;
"Am bwy'r aeth, a pha draethen,
"Ac wrth bwy, y gair o'th ben
[...]. G.
"Na ro d'arian, allan wr,
"Heb ŵystl it, er neb Bostiwr;
"Ac o rhoi, drwg yw'r rheol,
"Cei lawn waith i'w cael yn ol.
"At Gyfreithwr, gwladwr glan,
"Na ddyred yn ddi arian;
"Nid plesser, dy fatterion,
"I'r gwr braisg heb Aur ger bron.

Hygoeledd. Credulitas.

A goelio pawb, y glew pûr,
Eddaw'n waith, iddo wneuthur
T. [...].
[10]Clyw'r ddeuchwedl, claiar ddichell,
Calon bûr, cyn coelio'n bell.
S. T.

Duw. Deus.

Nid oes Arglwydd ond Jesu,
Na Brenin gorllewin llu.
Jolo.
Gwell yw Duw, na gallu dyn.
O. G.
O bydd cyfyng, heb eudduw,
Gan ddyn, mae'n ehang gan Dduw.
G.J.H
Duw a ry gwymp, i'r drwg wr;
Duw a gyfyd, ei gofiwr.
H. Ar.
Oes im ddim o ddaioni,
Onid a wnaeth, ein Duw ni.
D. Ed.
Rhan dda iawn, rhan Dduw yna,
Yw rhoi dawn fyth i'r rhai da:
Rhan dyn o'r [...]odeu uniawn,
Yw gwedi dêl, gadw y dawn.
S. T,
Dialedd Duw, ai olwg,
A ddaw yn drwm, i ddyn drwg.
Difrys y denfyn Duw fry,
Y dialedd, lle dyly.
D. Ll.
Ira rhodd, ar wyr heddyw,
A goreu stâd, yw gras Duw.
H. Ar.
[...]haid i'r un, y rho Duw ras,
[...]ydgerdded, gydâg Urddas.
T. A.
[...] wya gras yw ymgroesi.
S. T.
Gwaith blin, ac annoethineb,
[11]Ymryson oll, am ras neb.
T. A.
Ni fynno, Duw Nef anwyl,
Ni lwydd, ac nid rhwydd yr hwyl.
Sim. F.
Y mae'n well, be deellyn,
Byth Duw na gobeithio Dyn.
S. T.
Gwae a gred Uwch caledawr,
[...] ddim oll, ond i Dduw mawr.
Jolo.
Namyn a ddywettwy, o Dduw a mab Mair
Nid oedd iawn i ddyn, ddywedyd gair.
Br. F

Anghyttundeb. Discordia facile orta, difficulter sopita.

Goddaith a roir mewn Eithin,
Gwanwyn cras, trwy'r gwynnon crîn;
Anhawdd fydd ei diffoddi,
Ac un dyn, ai hennyn hi.
[...]throdion gweision y gwyr,
[...] bair adwyth, rhwng brodyr:
Geirieu da a gwyr iw dwyn,
[...] ddinistr y ddau wenwyn.
D. J. D.
[...]r Jesu mae rhannu rhod,
[...]c o gythraul goeg athrod.
L. G.

Blaenor. Dux Fortis.

[...]e [...]h a [...]rr blaen byth ar blaid?
[...]enor a [...]yw ei lonaid.
T. A.
[...] I [...]lu efai i'r llawr,
[...] lonydd, y b [...]aenawr.
S. C

Elusen. Eleemosyna: vi. Avaritia, Liberalitas.

[12]
A rydd hael, yw'r eiddo 'i hun.
T. A.
Dyn a ran, da yn ei raid,
Duw a ran, da i'r enaid.
G. Gl.
Na roed neb, cywirdeb call,
Er gwst, Aur ar gost arall.
A fo hael gafael gyfun,
A hŷ, bid o'i dda ei hûn
G. Ll.
Ni wyr y llawn o'r holl iaith,
Wich y gwâg, orwâg araith.
Pam nad ystyr, byrr yw'r byd,
Goludfawr, wrth galedsyd?
S. T.

Siampleu. Exempla.

Cyngor perīglor Eglwys,
Ydoedd i ddyn (pand oedd ddwys)
Gwna archwy yn gynhyrchiol,
Union farn, ac na wna'n fôl.
Ninneu o'n rhwysg, a'n ynni,
Union a wnel a wnawn [...]ni.
Y [...] ôl anwiredd y naill
Anwiredd a wna eraill.
M. R.
"Rhyfedd iawn rhyw fodd ewyn
"Meddaled yw, meddwl dyn!
"Na wêl dyn engyn angall,
"Y llûn y syrthiodd y llall.

Llygattyn. Fascinatio.

[13]
[...]rwyddion Diawl [...]ar ddyn du,
[...]w tonnog, lygattynnu.
Ni ddaw un tro'n dda, ond drwg,
Ac a welo drwg olwg.

Glewder. Fortitudo .vi. Amor Vecordia.

Nid yw rhyfel, un helynt,
Mal ar gyrph, y milwyr gynt.
Nid arfod, yn y dyrfa,
[...] berchi dyn, a braich da.
Egwan ddyn, a gwain o ddûr,
A dyrr nerth, a Dwrn Arthur.
Nid gwaeth Corr ffraeth, lle cair ffrawd,
Na Samson os â ymsawd.
Edm. P. i'r Gwn
Dewr a gair, ei drugaredd.
W. Ll.
A fo dewr hael, ar fyd rhwydd,
Nid [...] lesg, y deil ysgwydd.
Pam mai rhaid, o baid yn ben,
Droi'r gwnn, i daro'r Gawnen?
W. Ll.
Na wna gynnen, â gwannwr,
Heb weddi gwan, heb wedd gŵr.
[...]le bu ryw gam, llwybr a gaid,
Gwnewch iawn, er gwyn i'ch Enaid,
T.A.
Am air chwyrn, cymmerwch iawn,
Myn degwch, mwy na digawn.
Am weithred drom, o throid dryll,
Gwna weithred, neu'r gwayw'n wythdd [...]yll
[14]Pe lladd er pwyllo heddyw,
Pryfia di, pa ryw fyd yw.
Byd twyll, heb adnabod dŷn,
Baedd drûd, adnebydd dridyn:
Dy gy [...]tal, od ai gostî,
Dy well dy waeth, deall di.
Na chyffro un, uwch ei ffrwyth,
Ac na ddeffro, gan ddiffrwyth.
T. A.
Gwna gadarn gynnig oed [...]aw;
Gwrando wan gwirion o daw.
Na chlyw, mwy na choel ewyn,
Flas y dwr, ar falais dyn.
Fe wna gwan, o fewn ei garn,
Ryw hoccedion, i'r cadarn
T. A,
Eiriach y neb, archo nawdd.
T. A.
Ni bydd gwan, heb iddo garn.
T. A.
Gŵraidd a gyrraidd ei gas.
D. Ll.
Lludd [...]as urdd [...]s i ddewrddyn,
Lluddias Môr lle'dd â os myn.
G Gl.

Cynnilwch. Frugalitas.

A bryno tir, a braint da,
Yn ei ardal â'n ŵrda.
A wertho tir wrth y tai,
Efo weithian a fethai.
L. G.
Teyrn i Desyrn od â
El draul, a gymmedrola.
H D.

Dyn. Homo.

Ni bu yma neb ammarch,
Un wedd yw pawb ond eu parch
[15]Dir yw i bob aderyn,
Dy [...]gu anrhydeddu dŷn
[...] ddyn e orwedd annof,
Ac ar ei law, e ddaw 'n ddof.
G. Ll.
Rhyfedd diwedd blodeuyn,
A rhyfedd yw diwedd dŷn.
Dyn bob gronyn a grina
Fal y dyn blodeuyn da.
L. G.
Ty [...]u o goed d [...]ofer,
Y bu fal, pob afal pêr.
O cyn [...]ara, cyn hiroes,
Ni ddell yn niw [...]dd ei oes.
T. A.
Ni phery gloywder seren,
Na'i phryd ond ennyd i wen.
Da [...]l Ieuaing [...], hyd wyl Ieuan,
[...] bery'n glos, ar bren glàn:
[...]edi hynny oed hen [...]yth,
[...]iwach grinach, bellach byth.
[...]r un sud, er nas edwyn,
[...] messur Duw, amser Dŷn.
B. Br.
[...]esu, ai hud yw'r oes hon
[...] adeilodd hudolion?
[...]ail a ddigwydd bob blwyddyn,
[...]is a'i dwyll, ydyw oes dyn.
L. G.
[...]arfu megis ar dersyn.
[...] dydd, felly derfydd dŷn.
[...]abolaeth mab a welir,
[...]barbau, sal bore hir:
[...]iau i'r mab, wedi'r maeth,
[...]n greulawn, ddwyn gwrolaeth:
[16]Wedi hynny, daw henaint,
Ac yn hen, gorwedd gan haint.
Yna nosa, dan Jesu,
Einioes y dŷn yn nos du.
G. Gl.
Tri modd pond da'r ymweddyn,
Hudol, a Dis, a hoedl dyn?
T. A.
Yn eu dadl, echdoe'n d'wed [...]d,
Ddoe'n syw iach, a heddyw'n fud,
L G.
Breuola braw i'w Elyn,
Dim a'r y ddaiar yw dyn.
Iolo [...]
'Breuach na barr o ewyn,
'Yn ei stâd, yw einioes dyn.
L. G.
Duw biau, nodi bywyd,
Duw ba beth, a dyb y byd?
T. A.
Pob cadarn, a sarn hyd fedd,
A wnai Dduw'n wan ei ddiwedd.
L. M.
Gan rai wrth ganu yr oedd.
Ymryson am yr oesoedd:
Un a'i heirch, megis Noe hên,
I oed Eryr a Derwen;
I'r Llew y tebygai'r llaill,
I Geirw y tebyg eraill
Ni thebygwn hwn, i Hydd,
Nag i Adar, neu goedydd.
Difai gennyf ei dyfiad,
Dwyn oed hir, a dawn y tâd.
H. C, L.
'Cwyno'r ydwyf, rhag henaint,
'Cwyn hir gan ddryghin a haint.
'Cwyno anwyd, cyn ennyd,
'Colles oll y gwres a'r gwryd
[17]Gwden anwydog ydwyf,
Gwedi nerth, gwywa dyn wyf.
Tra fum i mewn tyrfau mawr,
Was ynfyd, Ifang [...] sonfawr,
Ebrwydd ehydrwydd hoywdrum,
A chryf iawn, yn chware fûm:
I Br. H·
Di eiddil, a da oeddwn,
A chryf, a gorwyllt a chrwn:
A hefyd esgyd ysgawn,
[...] ben yr allt, buan r'awn:
Trin y bel, a phob helynt,
A rhedeg fa [...] gwaneg gwynt.
Heddiw os i'r Rhiw yr af
O arfeddyd, hwyr fyddaf.
S. C.
Lle bo'r gamfa [...]erra fach,
Llymsi fyddaf, yn llamsach.
Ni chredir, nychu'r ydwyf,
Y rhodia'i mwy, rhy drwm wyf
Un liûn yw hûn, a henaint,
Yn fûl, gan ofal a haint:
Y sceirieu yn yscyrion
Y sydd i'm ffydd, yn ddwy ffon:
Y sgwyddeu, anosgeddig,
A chorph, heb na lliw na chig.
Gleinieu fy nghefn, a drefnwyd,
Yn gerrig craig, neu gorc rhwyd.
Rhyfedd yw'r Ais, a'i rhifo,
Fal cronglwyd lle tynnwyd to
J. Br. hir,
A'r breichieu, fal ffystieu ffyn,
A gwayw sy ym mhob gewyn.
[18]'Anaf lesg, yn goresgyn,
'A'r blew a'r gwallt, yn blu gwyn
'A'r dannedd o salwedd son,
'Afluniaidd, yn felynion.
'A'r olwg ddiwg ddeall,
'Truan o ddyn, yn troi'n ddall.
S. C,
'Gwreinaint, caf waith ymgrafu,
'Sy haint gyda'r henaint du.
'Crynedig i'm croen ydwyf,
'Cryniad deilen, Aethnen wyf.
'Gwr oerach, nag Eryri;
'A Berwyn wyf, i'm barn i.
'Ni thyn na chlydwr na thân,
'Na dillad, f'anwyd allan.
'Troi a sefyll tra safwy,
'Tan grafangeu'r angeu'r wy.
'Rhoed Duw'm bwll, rhaid im bellach,
'Ryngu bodd, yr angeu bach.
J. Br. [...]

Ni wyl neb am beth ni wyl. Ignoti nulla cupido.

Nid rhaid i ddyn, tywyn tes,
Wylaw ond am a weles.
L, G.

Anwadalwch. Inconstantia.

A arddelwo, o'r ddwylwy
Ni ŵyr a ddaw, un o'r ddwy.
J. De [...]

Diwydrwydd. Industria.

Trech yw a gais fantais ferr,
Na'r hwn a geidw o'r hanner.
M. R.
[19] [...]ech yw a gais, trwy awch gŵg
[...] a geidw, rhag dirieidwas,
[...]ddyn gwynn, ar ael glynn glas.
[...] hawdd cadw, cymmen wenn wych,
[...] lleidr, yn rhygall edrych,
D. G.
[...] a geisiodd, o'i fodd fis,
[...] ydoedd, nag a gedwis.

Diogi. Inertia.

[...] gwr ni newid gware,
[...] llong, heb fyned o'i lle.
G. Gl.

Trais. Traha. Injuriae .vi. Oppressio.

[...] ni thyf dawn, yn iawn w [...]dd,
[...] oer, lle bo'r anwiredd.
[...] gam ni fynn y gwir;
[...] iawn, ni fynn anwir.
H. Ar.
[...]hwsg awr a chas gwiriawn,
[...]nai gam, heb gynnig iawn.
T. A.
[...]gler ar farch malen,
[...]yf mwy, na gwenith hen.
D. Ll.

Testun. Ironia.

[...] ni wel [...]is yr un,
[...] wystl, a roi Destun,
[...]effid meddid i mi,
[...]awn orn, Destun arai.
O. G.

Cenfigen. Invidia.

[20]
Gwrda ni ddeil gair dan ddaint.
T. [...]
Gwan a fâg y genfigen,
Gwannwr byth, nis gwna ar ben.
A fo gwan, genfigennwr,
Hir yn was, a hwyr yn ŵr.
Calon pob g [...]r aflonydd,
Cneuen y genfigen fydd.
Camp hen genfigen ar fêr,
Cnoi galon, cyn y gweler.
Curo'r Ais, fel cyrriau'r ôg,
Cnoi y cylla, cnoccellog.
Ac yn grin iawn, gwan ei gred,
Ac a lysg, fal Golosged.
Llenwi bron, yn llawn â braw,
Llosgi fal y geill ysgaw.
Y llu Diawlaid, lle delynt
A fagen genfigen gynt.
L. G.
'Gwae ŵr llesg, medd y gwyr Lier.
'Gwan a fago, genfigen.
'Cenfigen flin o'i thrinio,
'A lysg eî pherchen yn Lo

Ieueng [...]id. Juventus erudie [...]

Y Winwydden, a nyddir,
Yn egwan iawn, ac yn î [...];
Pan êl yn hên gangen gu,
Ni oddef, ddim ei nyddu,
B. Aerdi [...]

Gwaredd. Lenitas.

[21]
[...]yn doeth a ddywaid yn deg,
[...]n gair a â drwy'r garreg
L. G.
[...]rwy deg cais, tra tyccio hyn·
T. A.
[...] gair twnn, a'r garw, nid da;
[...]air tecc [...]ch, goreu tyccia.
G. J. Ll. F
[...]r Ych gwâr, awch a gyrredd,
[...]rynhawn, y pery'n y wedd;
[...] flina'r Ych aflonydd,
[...] y Did, cyn hanner dydd.
[...] fo'n araf, fyw'n wrol,
[...]i thrippia, ni wyra'n ôl.
[...] fo chwyrn, ai faich arnaw,
[...] gaiff drip, wrth ryw gŷ [...] draw.
S. T

[...]aeliont, Cluseni. Liberalitas. vi [...]varitia, Prodigalitas. Eleemosyna.

[...] fon wes, a fo anhael,
[...] swrw rhoi, yn fai ar hael.
T. A.
[...] roddo hwnt ei ruddaur,
[...] a fydd, fwyfwy éi Aur.
L. G.
[...] â Afon, yn fwyfwy,
[...]ŷd y Môr, ac nid â mwy.
L. G.
[...]uw a ry mwynai o Dir a mynydd,
[...] o Fôr i hael ac ef a'i rhydd.
T, A.
[...] chai Duw arian anhael,
[...] rhald ond amnaid ar hael.
L. G.
[...]awd hael o hael wrth heiliaw,
[...]awd i'r ŷd, egino draw.
L. G.
[22]O'r hael y cair hael, a phe rhon, ai gael
Gan hael hawdd fydd cael, o fodd calon
Gwerthu Da yw gwarth diwad.
A Duw yn rhoi, Da yn rhad.
W. Ll.
Da oedd gael, un hael yn hên.
G. Gl.
Duw wrth raid, diwarth a ro,
Da'n rhwydd i'r dyn a'i rhoddo.
Anodd bod yn hael yna,
Oni bydd, y deunydd da·

Y Tafod. Lingua cohibenda. vi Lenitas.

Tafod fel dyrnod a Dwrn,
Trwy rwysg, a dyrr yr asgwrn.
S. T.

Swyddogion. Magistratui parendum.

Mae'n odid minio nodwydd,
Neu ben Saeth, yn erbyn swydd.
Ni nofia yn un Afon,
Neb, od â'n wyneb y Donn·
Ior. F.
Ni fu hawdd, nofio heddiw,
I un a ffrwd yn ei ffriw.
T. A

Drwg a ddaw am ddrwg. M [...]lum Compensatio.

Dihareb yw hon, dywirir, ym mro,
A laddo a leddir.
D. G.
[23] [...]wr a wnel drwg i arall,
[...]edi lladd, arhoed y llall.
L. G.
[...]rwg a wnaeth a drig yn wall,
[...]raw, ac aros drwg arall
D. Ll. de Ri [...].
[...] wnel argae gwae a gwall, o'r Deau
A gaiff dial cuall;
[...] wnel drwg, o dreigl angall,
[...] llaw arhoed y llall.
[...]id diofal ffyrsdal ffer,
[...] Gelyn a wnel galar;
[...]laddo ddyn a'i loyw ddûr
[...]uddias hoedl, a leddi [...].
D. G.
[...]laddo gwr a chledd gwyn,
[...] a leddir, ryw flwyddyn.
N.

[...]'r drygeu goreu'r lleiaf. Ex malis minimum eligendum.

[...] ni wyr, na bai'n orau,
[...]lleddid un na lladd dau?
D. Ed.
[...] holl ddrygau, diau da,
[...]wyr llawer, goreu'r lleia.
N.

Mam. Mater.

[...]euair oedd raid eu deall.
[...]ir Mam, gair Llysfam yw'r llall.
[...]wall yw sòn, pond gwell synwyr,
[...] nag un, digon a'i gŵyr
T. A.

Celwydd. Mendacium.

[...]lwydd ni wna ond cilwg,
[...]d da heb droed, un tyb drwg.
G. I. Ll F.
[24]Celwydd â'n gelwydd golau,
A gwir a fydd, gwir nid gau.
N.
Cyfled mantell mewn celli,
Gwrthwyneb a'i hwyneb hi.
Ac nid cyfled gweled gwir,
Ar ei wyneb, a'r anwir.
Ior. F.

Angau. Mors.

Dir i'r bobl, dewr yw'r bwbach,
Ryngu bodd yr Angau bach.
G. Gl.
A fago'r ddalar aren,
A lwngc hi fal Afangc hen.
G. Gl.
Ni chair Mach, i ŵr am oes,
Ni bydd un, heb ddwy einioes.
T, A.
O Angau ni ddiengir;
Ac nid â heb neb yn wir.
H. D.
Ni bu erioed, neb o'r Iaith,
Neu Frenin heb farw unwaith.
I. R. [...].
Pob un a aeth, pawb yn wâr,
Ar ei ddiwedd, i'r Dd [...]iar.
Minneu nid oes i'm annedd
O'r Byd, ond fy hyd o'r Bêdd.
W. Ll.
Dyn pe cyn gryfed a dau,
Digyngor y dwg Angau.
M. R.
Ni all Da'r Byd ennyd awr,
Ystyn einioes dyn unawr.
W. Ll.
Dynion Ieuainge a dyn [...]ir,
Dyn hen ni edy Duw'n hir.
Nid hwyrach Croen Oen unawr,
[25]Na'r Ddafad, i'r Farchnad fawr.
Ll. G.
[...] wr o bai hir ei Oes,
[...] Dda a wna byw ddwyoes?
[...] ryw hael, bûr wehelyth,
[...] rai beilch, a bery byth?
[...] ddyn o bai dda ei waith,
[...] [...]renin heb farw unwaith?
Ior. F.
[...]ctor gadarn o'r farn fau,
[...] ddiangod [...] yn nydd Angau.
[...]efyd Arthur, ddihafarch,
[...] tra fu ni bu'n ei barch.
G. G [...].
[...] gwyllt, ar warr Gell [...]ydd,
[...] ymgel, pan ddel ei ddydd.
[...] [...]g, a fo' mysg y Môr,
[...]dwg Angau'n ddigyngor.
[...] oll, be deallwn,
[...] sydd a erys hwn.
[...] a dâl byth o deliwch,
[...]wrder oll, o doi awr drwch?
[...]bydd o ŵr, o bai dda,
[...] arfo [...], yn y Dyrsa:
[...] na ddeil Bwa'n y Byd,
[...] dorgoch ond e [...]gyd.
[...]alch a haeddai, Glych heddyw,
[...] ei Derm, ei hedlad yw.
March cryf, os merchyg rhai,
[...]oes arno ond siwrnai.
[...]ryna, Duw'r Einioes
[...]ond un, i wr nid oes.
[...] drwg yw, pwynt tragywydd,
[26]Pan na ddeil dim pan ddel dydd.
Er Main gwerthfawr mewn gwrthfyd,
Er o Aur Bath, a roi'r Byd,
Er da pwys, i wrda pûr,
Ni chaid Hoedl yn iach Dudur.
T. A.
Tair Merched, tair tynged hon,
Y sy'n dwyn oes ein Dynion.
Un a gynnail, Gogailyn;
Ara [...]l a Nydd, Dydd pob Dyn:
Trydedd yn torri Edau,
Er lladd Iarll, a'r llu Ddiw Iau.
A. Gl.
Dled ar bob Dyn dychryn daith,
A'r aned, yw marw unwaith.
Y Gronyn hedyn hoywdeg,
A fwrir, yn y Tir teg;
Nid egina, da yw'r daith,
Y Grawn nes llygru unwaith.
Ac un llygriad, a hadyd,
Yw Dynion, be [...]chion y Byd.
Ac egino, Gogoniant,
Ys da nerth, drwy Gri [...]t a wnant·
O mynnwch gael, heb ffaelio,
Y Wledd fawr arlwyodd fo;
Crynwch hwnt i'ch croen i'ch oes,
Crinion yw ceingcieu'r Einioes
Rhowch eich gofal, bob Calon,
Ar Grist fry, ar groeswaed fron.
Yno dowch, bob un a dau,
O [...]l i'r fan, lle'r wyf finnau.
Lle nid oes, na garw loes gûr,
[27] Na dialedd na dolur:
Nac erlid, llid nac oerloes,
Na dig na galar, nid oes:
Na Newyn, chwerwddyn na chwyn,
Na syched, na nos achwyn:
Byw'n y Nef, bawb yn Ifang [...],
Heb dorri Oes a heb dr [...]ng [...].
T. A.
Duw wyn bau dwyn bywyd.
B. Br.
Pa Ddydd y derfydd pob Dyn?
Y Dydd, a roes Duw iddyn.
W. Ll
Os Duw a ddewis y Dyn,
E wŷl Duw, ei flodeuyn.
T. A.
Cynnar y gwna'r Ddaiaren,
Cyfalhau Ieuang [...] fal hên.
Unllwybr a gwaith y winllan,
Ydyw'r llu yn mynd i'r Llan.
Dynion Ifaing [...] dianhy,
Yn fore ânt, i Nef fry:
A rhai yn hanner eu hoes,
Oedd hanner dydd eu H [...]inioes.
G. Gl.
Da diweddar dedwyddyd.
T. A.
Newidiais [...]yd iawn ydoedd,
Newid wych, im Henaid oedd.
A. A.
Nid marw ef, nid mor ofyd,
Nid byw, ond newidio Byd.
Duw y sydd, dwy Oes heddyw,
Un fyth fry un ferr i fyw.
T. A.
Gwŷfir yr Enaid gwiwsyth,
Mawr boen, ni bydd e marw byth.
Duw a'i rhoes, mewn Da [...]ar hên,
[28]A Ddeiryd i'r Ddaiaren:
Daiar i Ddaiar ydd â,
Yr Enaid, i Wyr Anna.
I. R. Ll.

Y Byd. Mundus Transit

[...]fyrf yw brig, ffurf y Bregeth,
F [...]ei o'r Byd, na phery beth
T. A.
Gwae ro ei frŷd, er hŷd rhus,
Ar ein Bŷd, mawr [...]nb [...]dus.
Doe'n Arglwydd Canheidlwydd Cêd;
Heddyw dan yr anhudded.
Gr. Gwef.
Rhidyll hudol [...]idd rhydwn,
O Fŷd, ar ei hŷd yw hwn,
Y Maccwy ilawen heno,
Hy [...]ryd ei fywyd a fo,
(Breuddwyd aruthr ebrwyddarw)
A dry y fory yn farw.
D. G.
Na rodded un Cun ceinsyth,
Frŷd ar y Bŷd, fradwr byth.
Estron Wâs, os dyry'n wir,
Fud ellw [...]g, ef a dwyllir.
Hud yw Golud, a Gelyn,
Brwydr dôst yw, a Bradwr Dŷn.
Weithiau y daw draw draha;
Ac weithiau y [...] ddiau'dd â.
Mal trai ar ymylau Traeth,
Gwed [...] llanw gwŷd a lluniaeth.
Ci werddid Mwyalch ddichwerwddoeth,
Yngh [...]ll [...] las, Cathl [...]l [...]s coeth;
[29]Nid erddir, Marlbridd iddi,
Nid yrraidd Hâd, nid Ardd hi:
Ac nid oes Edn fergoes fach,
A'i thruth oll, ei thrythyllach.
D. G.
Gwae'r neb er cwbl o'i Febyd,
Byth a'mddirietto i'r Bŷd.
Gwae a gollo nawbro Nêr,
Duw Nef, er donieu ofer.
Iolo [...]

Cnw da. Nomen bonum.

Gair a dynn gariad i wr.
N.
Y Dŷn a gaffo Enw da,
A gaiff gan bawb ei goffa.
L. G.
Dŷn arall mynn dwyn Arian;
Dwyn ei glôd, a synn Dŷn glân.
Iolo.
Y Gŵr a hae [...]do gariad,
Yn ei flaen, a Nofia'i Wlâd;
Dŷn taerwyllt annaturîol,
Drwg ei naws, a drig yn ôl,
O. G.

Hardd pob Newydd. Nova pulchra.

Y mae'n Ddihareb i'm Oes,
Hardd fydd pob newydd nawoes.
S. T.

Swydd. Officia.

[...] phery swydd ond blwyddyn.
Ior. F.
Offis bob drimis a dry.
Na chais un achos hynny.
L. M.

Gweithred a ddengys. Opus virum indicat.

[30]
Y mud cu, ammod cywir,
Os gwell, a ddengys y gwir.
Gweithred un heb goethair da,
Yn goeg iawn, a'i gogana.
W. Ll.

Golud. Opes.

Bonedd heddyw, ni wedda;
Bawaidd yw Dŷn, ni bydd Da.
Ior. E.
Er ammeu, o rai ymma,
Er hyn Duw, sy'n rhannu Da.
T. A.
O Erw i Gant yr â Gŵr;
O ddwy'i un, ydd â anwr.
I. Deul.
Nid ery, Blaned araul,
Y Rhew, yn wyneb yr Haul.
O. G.
Ni ddaw Eiry'n nydd araul,
Yn y Rhiw, tywynno'r Haul.
D. N.
Erioed, ni thrigodd yr Ja,
Ar Ffynnon, Fis Gorphenna.
D. N.
Ow gwŷl di Ddyn, gael dy Dda,
A chymmer, tra sych ymma.
Na fydd Gybydd, Celfydd Call,
I ddwyn Aur, i Ddyn arall.
Cymmer drwy fwynder dra fŷch;
Dôd ran o'r Da a drinych.
Y Da ddel yn dy ddwy law,
Gwell it roi, na'i golli draw.
S. T.
Gŵr ni ŵyr, gr [...]nni Arian.
[31]Onid y Rhent, â'n dair rhan:
Un i'w Lŷs, a'i Win o'i Law,
Wrth yr Aelwyd, i'w threuliaw:
Yr ail i Weiniaid a rydd;
At yr Adail mae'r trydydd.
G. G.
Da byw eu dwyn, Duw biau;
Duw biau rhoi, Da'i barhau.
S. T.
Yr Aur ei adail sy ra [...]d.
Yn Dwrr, i ryw Ddyn diriaid.
S. T.
Murnio Da, marw'n y diwedd;
A Da'r Byd nid â i'r Bedd.
D. Ll.
Crŷs gwyn, a'i dilyn i'w Dŷ;
A Gwialen, yn Gywely;
[...]r Elawr, heb fawr wylaw,
[...]ci'r Llan, yma ger llaw.
S. T.
Nis canlyn o'i Dda, o'i Ddiffer, ymro
[...]nid ei Amdo, amdlawd biner.
Gr. Yn.
[...] Da'r Byd i gŷd a gedwir, dros bryd,
[...] Da'r Bŷd i gŷd, yma y gedir.
W. Ll.

[...]rais. Oppressio Pauperum. vi. Injuria & Origo.

[...] so traws, fo'i try Jesu.
S. T
[...]id rhyw iddo ladd truan;
[...]id Clôd ceisio gorfod Gwan.
L. G.
[...]dreisio Gwan, draw is gil.
[...] drippia, Mab Duw'r Eppil.
[...] fo'n enwog fyw'n uniawn,
[...] rydd Duw, fawredd a Dawn.
S. T.
[32]Y Cyfiawnder, côf undod,
A yrr gwr hael, i frig rhod:
Y Trawfedd, a wnel Treisiwr
A dynn ei Dal, dan y Dŵr.
W. Ll.
Cammeu a beieu lle bôn,
A yrr Ddinistr, ar Ddynion.
Ef â Treisiwr, so trawsaidd.
Fal pren Onn, mewn bron heb wraidd,
Byw'n gymmwys, heb hen gammau,
A bair i hil Gŵr barhau.
Anllywodraeth a lledrad,
A lygra hil Gŵr a'i hâd.
W. Ll.
Byw ar gam, drwy Bwer gau
A dyn Dynion, dan Donnau.
W. Ll.
Gwell i Wr, goll ei Arian,
Na cholli gweddi Dyn gwan.
W. Ll.

Urddau. Ordines Ecclesiastici.

Mwy yw'r henw. mae rhai henoed,
Ar ddyn gwych, Urddeu nâg Oed.
T. A,
Ba raid Gradd hyd Neuadd nonn,
Burach, nag y bu Aaron.
S. Ph,

Bonedd. Origo bona. vi. Injuriae, Liberalitas.

Blodeu cyn Afaleu fydd.
H. D.
A dyfo o Bendef [...]g,
A dŷf o'i wraidd hŷd ei frig.
D. N.
Gnawd o'i Ryw, gnwd ar ei ôl,
[33]gwres yn hir, gwr synhwyrol.
T, A.
Byw'n Dduwiol, lle bo'n ddiau,
A bair i hil gŵr barhau.
W. Ll.
Derwen têg y Cadeiria,
A gaffo'i dwyn, o Gyff da.
H. C. Ll.
Y Pren fyth, pûr yn ei fôn
A bair Afaleu'n berion.
A'r Gwr Da, a'r gair duwiol,
A eura'i Imp, ar ei ôl.
W. Ll.
Y Tir da, heb nattur du,
Wna i wenith, ennynnu.
Gŵr di fai, o Grud i fedd,
A yrr twf ar ei 'tifedd.
Coed Dolydd, fo'n cyd deiliaw,
A ffynna 'mhlith, Gwlith a Glaw.
Yr Hŷdd, a gynnydd ei Gyrn,
Y Gwaed da a fâg Teyrn.
Bonedd mal Etifedd maeth
A fàg, y Bendefigath.
D. N.
Yspys y dengys y Dŷn,
[...] ba radd, y bo'i wre [...]ddyn
[...] ffrwyth achos ffrith uchel,
[...]a ceidw dàst, y Coed y dêl
T. A.
[...]amw ain cael Mab diymwad,
[...]wnel dim yn ôl ei Dad.
L. G.
[...]did Gŵr, oed [...]d gariad,
[...] Fîl, a dynn fal ei Dad.
D. H. H.

Petheu bychain. Parva.

[...] bu fawr, Duw gwawr a'i gwŷl;
[34]Paham? Cynsam y cynsyl.
R G. E.
Y Lleuad, pan fo lleiaf,
Ai llai y rhed, na Lloer Hàf?
Ior. F.

Nid Ty heb Wr. Paterfamilias

Gwael [...]ydd y Bwrdd a'r Gwely,
A Bort tàl, heb wr y Ty.
H. C.

Dioddef. Patientia.

Er godde'r Awr y gweddai,
Ar oddef fyth, yr oedd fai.
T. A.
'Da dioddef, diwad addas,
'Dyna wedd, daioni i Wâs.
S. R.

Gwlad. Patria.

Dihareb a oedd derwyn,
A ddywa'd wr [...]h Ddaw, a Dyn;
Cabla'th Fro dda, i'm gŵyddi,
Ath Randir, a thro yndi.
L. G.
Lle maccer yr Aderyn,
Yno trig. Natur yw hyn.
D. J. D.
Tra glwys yw ratur Gleisiad,
Garu'r Dŵr Goror ei Dad.
Y llwyn y mager y Llew,
E'i dilyd hŷd ei Olew.
W. Ll.
Chwannog Màb. pan gychwynno,
Adwyth a sydd, i'w daîth fo;
A dau chwannoccach o'i Daith,
I Faelor adref eilwaith.
R. G. Gl.
[35] [...]bellaf gwaethaf yw'r gwerth.
G, Gl.

Pechod. Peccatum. vitium.

[...]d cael yn ddiadwyth,
[...]dŷn na Phren, yn dwyn ffrwyth.
G. Ll
[...]wn beiau oll yw'n Bywyd;
[...]wn bai yw pob lle'n y Byd.
S. T.
[...]sied Cedyrn. feddgyrn faeth,
[...]gweiniaid, feddyginiaeth.
[...] bu, ac ni ddychon bôd,
[...]b iach, heb arno Bechod.
H. D.
[...]d Baich, onid o Bechod.
Jolo [...]
[...]d Baich, ond Baich o Bechod.
[...] y Farn, gwae Ddŷn o'i fod.
D. M. T.
[...]af yr air i Orallt,
[...] Baich, yngwrthwyneb Allt.
D. N.
[...] Dyn yn sy llygad i,
[...] wŷl Oenyn Yleni;
[...] ni wŷl y gwan eulun,
[...]wrdd yn ei lygad ei hun.
[...] ŵyr y llaw lawn o ŵyn,
[...] wich llaw wâg heb achwyn.
G. Gl.
[...]ll y gwŷl engyl angall,
[...]rchiad yn llygad y llall.
L. Gut.
[...]yfod, cyd bych diofal
[...]wna dy dwyll yn dy Dâl.
R. Ddu.
[...]i ddwg Mab, arab aren,
[...]aich y Tâd, o Bechod hên.
[...]i liwir, yngoleuad,
[36]I neb, odineb ei Dad.
Jolo.
Tridyn nid ânt ar redeg,
I fynydd Duw, fan oedd deg:
Y Celwyddog, serthgrog swydd,
A gai olud, o gelwydd:
A Gŵr, a ddirmygo Wan;
A Gŵr, a logo Arian.
S. T.
Y March, a wŷl o'i Warchae,
Y Ceirch, ac ni wŷl y Cae.
D. G.
Edrych pan welych y Nôs,
A chae'r Annedd ddechreunos
N'ad un Drws, a nodwn draw,
Heb ar unwaith, ei breniaw.
Dros bryd na âd Drws heb bren,
Dros brenio'r Drws a Brwynen.
Ail meddwl, am a wyddost,
Na thynner Piler o'r Post.
Na ddos di. achos dichell,
I Dafarn gau dewfurn gell.
Ef a'th dwyllir Feinir fau,
Od ai'i furn o Dasarnau.
I Drai drwg, onid ai draw,
Odid allael, dy dwyllaw.
G. I. Ll. F.

Gorhaeledd. Prodigalitas.

Nid gwell rhyhael, difael fydd,
Yn rhoi gwbl, na rhy Gybydd.
D. Ed.

Tegwch. Pulchrum.

O fair, llawer teg a fydd,
[37] [...] ddŷn yn ddrwg ei ddeunydd.
[...]off gan bob Edn aflednais,
[...]m medw gled, lwysed ei Lais.
G. Gr.

Pwylledd. Prudentia.

[...]well Pwyll y mae'n gall y Pen,
[...]àg Aur bennaig o Urien.
L. G.

Mynd i Adwedd. Recidiva.

[...]a thrown a'r Aradr adref;
[...]dro'n ôl, nid â i'r Nef.
S. T.

[...]eb peth yn ei gylch. Rerum vicissi [...]udo.

[...]b cadarn pawb a'i codai,
[...] yn yr awr gwan yr ai.
[...]odi rhai y cad y rh [...]d,
[...]i gostwng, o frig y stod.
Edm. P.
[...] ba ddryghin heb hinon,
[...]a thrai blaen llai heb lanw llon.
I. H. G.
[...]ae llun y rhôd, i'm llaw'n rhol,
[...]drych Wyneb, drwy chanol.
[...]wiliwch y Droell amgylch draw,
[...]wir pedwar gair heb peidiaw,
[...]ddwch, Pybyrrwch y Byd,
[...]foeth a fâg ef hefyd
[...]foeth balch, (caf waith y bêl)
[...]fo cryf, a fâg rhyfel:
[...]yfel a fâg, rhyw a [...]ar,
[38]Tlodi byth, at lid a bâr:
Tylodi trueni trwch,
A fo coedd, a fâg heddwch.
Mae'r geirieu hyn, ym mrig rhod,
Be caid neb, l'w cydnabod.
Codiad Dyn, nis ceidw tani,
A chwymp sydd, o'i chwmpas hi.
Heddychu, heddyw uchod,
A wna parhau'n nhop y Rhod.
T, A.
Ni wnaeth drwg, a'i diwygiodd. N.
Am ei Bridwerth, ni pherthyn,
Ymliw a Duw, mal a Dyn.
Rhaid fydd, lle rho Duw ei fâr
Dwyn Eginyn, da'n gynnar.
T. A.

Yr Adgyfodiad. Resurrectio. [...] Mors

Yr un cnawd, Ddydd brawd a ddaw,
Yn dudded Enaid iddaw.
Clyd i'r corph, clydwr o caid,
O Phrynodd, ffawr iw Enaid.
G. Gl.

Gair i Gall. Verbum Sapienti

Deuair yw un-gair i Gall.
Jor. F.
Llygaid a ddywaid i ddoeth,
Synwyr. lle nis cais Annoeth.
G. O.
'Lle doi Angall, a dengair,
'Llunir i Gall, hanner gair.

Gorymgais. Altum supere.

[39]
[...]a chais, a difantais fych,
[...] rhoddiad, nis cyrhaeddych,
G. O.
[...]a chyraedd, mewn awch Arian,
[...]ae'n waith rwysg, mwy na'th ran.
S. R.

Gwybod. Scientia.

[...]id hael, hael ar fedr cael cêd;
[...]id call, Call wedi colled;
[...]id dim, dim diddim od aeth;
[...]id Byd, Byd heb wybodacth.
W. Ll.

Henaint. Senectus.

[...]naint, o ddeiliaint ddylyn,
[...]ddaw heb wybod i Ddyn.
R. R. G.

Ymadrodd. Sermo.

[...]th sutt eu haraith, a'u sôn,
[...] adwaenir, y Dynion.
J. B.

Gweision. Servi.

[...]wydiach, fal y dwedynt,
[...]d Gwas, gwedi faeddu gynt.
O. Ll.

[...]ob cyffelyb ymgais. Similis similem sibi Quaerit.

[...] modd a luniodd Duw lwyd.
[...] glan i lan a luniwyd.
G. J. Ll. F.
[40]Ifangc, Ifangc a ofyn;
Henaint, at henaint y tyn.
S. Ph.

Breuddwyd. Somnium.

Breuddwyd wir ebrwydd y daw.
L. G.

Ynfyd. Stulto ne Respondeas.

Ymliw nid doeth, mal nôd haint,
A chroesan, rhag echryshaint.
Ll. Gu [...].

Balchder. Superbia.

Goddef dy îs, dewis dâl;
Gwawd di gost, gad dy gystal.
G [...]. D.
Y balchaf trawsai trasyth,
Lleia'l barch, ym mhob lle byth.
R. [...]
A fo'n falch, o'i fewn o'i fodd,
A fo ffol, ef a ffaeliodd.
D. Ed.

Tyb. Suspicio. vi. Mendacium

Os o brudd, mae'm cyhuddaw,
E dŷb drwg, a fo drwg draw.
B. Br.
'Fo wr drwg, a'i frŷd ar wall,
'Ef a daera, fod arall.

Tewi. Taciturnitas.

Da Daint rhag Tafod, daw Dydd,
Ynghilfach safn anghelfydd.
Jolo.
O bai Air, heb ei warrant,
Goreu dim, ei gau ar Dant.
J. Deu [...].
[41] [...]d [...]wo, a wrandewir;
[...]dewi gwers y daw gwir.
[...]d a siarad, sy wrol.
T. A.
[...] yw oedi, dywedud,
[...] iawn. mal y Dewin mûd.
[...]ddwedyd, anddiwydair,
[...]yw dd [...]wg neu gilwg a gair
[...]dewi moddeu diwg,
[...]d oedd gael, drafael drwg.
L. Gl.
[...]ddyliaid ei raid lle'r êl,
[...]hewi a wnaeth Hywel.
[...]ar y Doeth, goreu dim.
[...]ddyliaid meddai Wilim
[...]allwr, a dau well-well,
[...]aw, a Mul, oes dim well.
H· C. L.
[...]us fydd parabl isel,
[...] a Doeth, wedi dêl.
L. G.
[...]lynn dyfnaf o'r Afon,
[...]fis Hâf, yw ei sôn.
[...]oeth, ni ddywaid a ŵyr;
[...]o sôn y daw synwyr.
[...] Doeth, efe a dau;
[...]oech ni reol Enau.
G. J. H.
[...] ni châr, gormodd siarad,
[...]yw a Doeth, mal ei D [...]d.
[...]meibion, Gwyr doethion gynt,
[...]ûlaf, a ganmolynt.
[...]dichon, mewn heddychau,
[...] Doeth, y neb a Dau.
[42]Os pwyll Cannwyll rhag Cynnen,
Goreu Cannwyll, yw pwyll Pen.
H. C.

Llygredd y Byd. Temporum [...]juria, & morum Corruptio.

Wrth ddau beth, yr aeth y Bŷd,
Wrth ofn, ac ar werth hefyd,
'Oerder yn ein hamser ni,
'Yr Ja glas yw'r Eglwysi.
S. Br.
Swyddeu Gwlad sy heddyw gloff;
Swyddeu Eglwys, sydd ogloff
'Y Pâb, sal am yr Aberth,
'Ammeu'r gwir, y mae er gwerth.
A phob Cyfraith effeithiawl,
A l [...]w Dŷn, aeth yn llaw Diawl.
Ni chair dŵr rhôm a chaer Dŷf,
Eisieu Arian i Siryf.
'Tydi'r gwan, taw di a'r gwir,
'Arian da a wrandewir.
Nobl, o bai yn abl o bwys,
A wnai'r Cam. yn wir cymmwys.
Y gair geuog, ar gywir
Ac Arian a'i gyrr yn wir.
Er daied, fo'r gair d [...]werth,
Ni bydd gwir, heb addaw gwerth.
Y cywir, a gaiff hirwg,
A'r Lleidr a droir, o'r lle drwg.
F'aeth anwir, ar faeth ennyd;
F'aeth y gwir, ar feth i gyd.
[43] [...]aidd ac Oen, ble'dd â Gwannwr,
[...]wynt hwy ddau, aen gynt i ddŵr,
[...]en a l [...]s, yn ol ei wir,
[...] i'r Oen, ammeu'r anwir.
[...]or. F.
Adrodd y gwir, drwy Dduw gaf,
Ar y Byd, ni arbedaf.
Ar y gwir, mae rhagoriaeth;
O'm lleddir am wir ba waeth
Aml iawn y cair llygrair llwyth,
Anudon a wna adwyth.
I faeddu Duw fe ddaw-dyn,
Ffres gwedi ffrisio'i Gydyn.
Aml dyngu mal y dengys,
I waed a chig Duw a'i chwŷs
Pan ofer Dynger rhwng Dau,
Pa Lw, heb ei Weliau.
Afrad ar Ddillad a ddaeth,
Afraid îawn, o fradyniaeth.
Pais Gwr happus, âg Arian.
Pais a lwngc naw Pwys o Wlan,
Codi rhwff, cŷd a Rhessyn,
Castell, am Dagell y Dyn.
Cwrlo Gwallt merch, Carl a'i gŵyr,
Colles hon y Call synwyr.
Gwelir o'r [...]lust i gilydd,
Gwallt goss d, yn fargod fydd.
Balchder y sy'n gadwyn gaeth
A fwrw fil, I farwolaeth.
Byd sydd, ni adnebydd neb,
Ba Ddyn, heb ddau wyneb.
[44]'Oeri cariad, yw'r cerydd;
'Trassau yn ymgassau sydd;
'Byw ac aros, heb gariad,
'A bair twyll, y Mâb i'r Tâd.
'Bardd awen bûr, a ddeall,
'B [...]adwr llwyr yw'r Brawd i'r llall,
'Gan Fyd gwenwynllyd, gwae ni,
'Ac Adwyth, yn ymgodi.
'Cydgoeliwn, gyda'i gilydd,
'Cydwybod, ddarfod ei ddydd.
'Caowyd ar Wirion cywir,
'Cadarn a fyn, darn o'i Dir.
'Y Trahausaf, o'r Trawsion,
'Oreu sydd, yn yr oes hon.
'Ar Wr mawr, bob awr o bydd,
'A'i Law'n cael, ni lûn C'wilydd
'O Chaiff fo, dan Bolio Bŷd,
'Ei Dy'n wych, dyna Iechyd,
'A gadu, heb helpu hon,
'Eglwys Duw'n gleisieu duon.
'A'r Fonwent, oreu fynnoch,
'Anferth y mae'n Fuarth Môch.
'Rhai'n eu Ffwrr, o'n Hoffeiriaid;
'Rhawn gynt, am y rhai'n a gaid.
'Un Duw'n Tâd, a'n Da, a'n Ti [...]
'A'r Bwydydd, ni arbedir.
'A bychan lle hir bechwyd,
'Ac i un Bol, Ugain Bwyd.
'Ac ni chlywir, gwir yw'r gân,
'Un a'i Gylla'n wâg allan.
[45]Du oer o beth, ydyw'r Bŷd,
Yn flinder, yn aflendyd.
Balchder a browyster brâd;
Balch-chwydd, Anlladrwydd, Lledrad.
Codes, nid cynnes Cenol,
Cenfigen, gwae Pherchen ff [...]l.
Chwimllyd yw'r Byd ar ei ben
Chwerw a Sûr, a chrâs aren
Arfer o drawsder, sy drwch;
Wedi Trawsder, d [...]w tristwch.
Nid oes le ffo, pan fo'r Farn,
[...]'r Hoccedwr, a'r Cadarn,
Y sy ddrwg, a'i swydd a'r waith,
Ofned Uffern, fan diffaith.
Braw ydyw, obry redeg;
Fry od awn, mae'n Fro deg.
Duw o Gôf aeth, dig yw fo,
Duw a'i nerth, rhaid i'n wrtho,
[...] mogelwn, ei Gilwg;
[...] mrown i droi, mawr yw'n drwg.
Ieuan Tew o Gydweli.

[...]ysfydd Calon. Tristitiam cordis Vultus non celat.

Claf fai'n celu ofid,
[...]ai ei Rûdd, heb fawr wrid.
B. Br.
[...]chel mi mynych wiliais,
[...]ngrûdd a f [...], yngwraidd Fais.
T. A.
Giûdd, y sy'n cyhudd [...]w,
[46]Y Galon dri [...]t, o'r Glyn draw.
J. [...]
Ystyddiau, bum gystyddiwr,
Ni chel y Grûdd, gystudd Gŵr.
H. D.
Ni allai'r Grûdd, fy lloer gron,
Gelu cystydd, y Galon.
H. D.

Tristwch. Tristitia gravis est

Eithr calon oer, nid oer dim
Och o'r hwyl, fal awch rhewloer,
Och, ni bu och, na bai oer.
Gr. Gwef.

Llyfrder. Vecordi [...].

Y Llyfraf gwaccaf ar gil,
Ei frig a friw, a'i Wegil.
A'r Dewraf oll, i gadw'r iawn,
Yn ei wyneb, yn uniawn.
L. G.

Cleddyf gair Duw. Verbum D i Gladius.

Drwg y gall, Draig yw y Gŵr
D [...]rnau moelion, drin Milwr.
Gloywddwys bryd, gledd ysprydawl,
gair Duw yw'r Arf, a darf Diawl.
S. [...]

Gwirionedd. Veritas. vi. Men [...]dacium.

goreu ar bob hardd, geirwir,
O Wr wrth gerdd, draeth u'r gwir.
Ni yrrir y gwi [...], o'i garn;
[47]Nid à'n Us, dan ei Wassarn.
L M.
[...]ngheuol, ac anghywir,
[...] Chnaf wyf, o chanaf wir.
Ior. F.
Ni âd y Gwin, oedi Gwir.
R. Teg.

Na phryn henbeth. Vetusta non emenda.

[...] bryno [...]en Fargen faith,
[...]bry'n ôl, a brŷn eilwaith.
D. Ed.

Lle. Vir locum ornat.

[...]ŷn a all, mewn deunawlle,
[...]r Ddwr a Llawr, Urddo'r Lle;
[...]c nid hawdd, gan y Tyddyn,
[...]'r Ddaiar dew, Urddo'r Dŷn.
J. Deu [...].

Rhinwedd. Virtus.

[...]fer yw brig, fry ar bren,
[...]eb rinwedd mwy na brwynen.
[...]ynnyrch twysen, yw splennydd;
[...]c yn y Glaw, e gŵyn Gwlŷdd.
[...]isieu 'gi [...]o [...]as gynnes.
[...] gwywant hwy, gan y Tes.
O. G.

Yr un accen. Unum Sectari.

[...]yddgi da, hawdd ei g [...]dw ef,
[...]ddylud yr un ddolef.
[...]n y Gaingc, ni ŵyr y gôg,
[...]d un llais Edn lluosog.
H, D.
DIWEDD.

Authorum Nomina & quando [...]loruerint.

[48]
B
B. Aer. Bedo Aeddrem.
150 [...]
B. Br. Bedo Brwynllys.
146 [...]
Br. F. Brawd Fadawg ap Gwallter.
125 [...]
D.
D. Ed. Dafydd ap Edmwnt.
14 [...]
D. J. D. Deio ab Jeuan Du.
148 [...]
D. N. Dafydd Nanmor.
146 [...]
D. G. Dafydd ab Gwilim.
1400
D. Ll. Dafydd Llwyd ab Lln ab Gr.
148 [...]
D. H. H. Dafydd ab Hywel ab Hywel
148 [...]
D. M. T. Dafydd ap Maredudd ap Tudur.
140 [...]
E
Edm. P. Edmwnt Prys Archdiacon Meirionedd.
162 [...]
G
G. Ll. Gruffydd I wyd ap Daf. ap Eingion.
14 [...]
G. Gr. Gruffydd Grŷg
14 [...]
Gr. J. Ll. F. Gruffydd ap Jeuan ap Lln. Fych.
1500
G. H. Gruffydd Hiraethog.
153 [...]
G. Gl. Gutto'r Glyn.
145 [...]
Gr. Gwef. Gruffydd ap Gweflyn.
140 [...]
G. O. Guttyn Owein.
14 [...]
[49]G. D. Ych. Gruffydd ap Dafydd Ychan
1460.
G J. H. Gruffydd ap Ieuan hen.
1460.
H
H. D. Hywel Dafydd ap Ieuan Rhys.
1490
H. Ar. Huw Arwystl.
1550,
H. C. Ll. Huw Cae Llwyd
1480
H. Cil. Hywel Cilan.
1480.
J
Jeuan Brylydd hir.
1450.
Jolo Goch.
1400.
Jor. F. Jorwerth Fynglwyd.
1460.
J. Deul. Jeuan Deulwyn.
1460.
J. [...]. ab Lln. q.
 
J. H. S. Jeuan ap Hywel Swrdwal
1460.
J. B. Jeuan Brechfa.
1500.
J. D. Jeuan Dyf [...].
1490.
Jeuan Tew.
1580.
L
L. Mon. Lewys Mon.
1500.
L G. Lewys. alias Lln. Glyn Cothi
1450.
L. Mor. Lewys Morgannwg.
1520.
Ll
Llo. Llowdden
1450
Ll. G. Lln. Goch ap Meuryg hen
1400.
Ll. Gutt. Llywelyn ap Guttyn.
1480.
M
M. R. Mredudd ap Rhy [...].
1440.
N.
Anonynus.
 
O
[...]. N. [...].
 
[50]O. G. Owain Gwynedd.
1560.
R
Raff. R. Raff ap Robert.
1530.
R. Ll. R. R. Rys Llwyd ap Rys ap Riccart.
1460.
R. G. Er. Rys Goch. o Eryri.
1420.
R· G. Gl. Rys Goch Glyndyfrdwy. q.
 
R. Dd. Robin Ddu.
1460.
R. R. G. q.
 
R. C. Rys Cain.
1580
R. Teg. Rys Teganw [...].
1480
S
S· C. Sion Cent. q.
 
S· F. Simwnt Fychan·
1570
S· C. Sion Ceri.
1520.
S· Br. Sion Brwynog.
1550.
S. Ph. Sion Phylip.
1580.
S. T. Sion Tudur.
1580.
T
T [...]. Tomos Pr [...]s.
1580
T. A. Tudur Aled.
15 [...]0
W
W. Ll. Wiliam Llŷn.
1560.

Cywydd o folawd ir Iesu.

BUm yn darllen gryn ennyd.
Bereiddwaith beirdd heirdd o hyd:
[51]Na bu i gael neb o'u gwell,
Am roi gwawd, ym Mro Gadell.
Annel Clau, rhai'n eilio Clod,
I frenh [...]oedd, farn hynod.
Rhai'n breladeidd weddeidd wiw,
I eglwys-wyr aeg lwys-wiw.
Ar hoff wawd, cai Brophwydi,
Arbennig fawredig fri.
Rhai'n gwario, er gŵyro gwŷr,
Rhyw gaingc aur, ar Goncwerwyr
Cai wyr haelion, ffrwythlon ffawd,
Can miloedd, eu Canmolawd.
Goreu-gwyr, i'w gwir ragod,
O gaer a glynn, a gai'r glod.
[...]y [...]alu yn gu heb gel;
[...]wyn acheu, a dawn uchel.
[...]euan Rhydderch, loywserch lon,
Lawn araith, o Lynn Aeron;
Ab Ieuan Llwyd, baun y llu,
A assiei, i fam Jesu;
Gerdd brydferth, yn ddiserthwch;
[...]r mal Cwyr, a mel o'r Cwch.
Mae'r bryd mau, diau o daw,
Manolwawd i'm mewn ciliaw.
[...] brydferthaf, Croyw-Naf Cred,
Roi fy mawl, er fy muled.
Iesu yw nghof, wir ddofydd;
Iesu fu, a Jesu fydd.
Eurbor, Nefol, freiniol fraint,
Wŷch o'r llys, uwch yr hollsaint
[52]Addwyn Frenin. iw ad [...]ef,
Ynglynn aur Angylion Nef.
B [...]enin Cred Ri diledryw;
Brenin i bob Brenin byw.
Yn d'wy sogawl di segur,
Uwch law pawb, y iach-lew pùr.
Offeiriad mewn graddiad gron,
Burach nag y bu Aron.
Ein pôr hy, a hwy'n parhau,
Nag Aron, yn ei gaerau.
Prophwyd yw ef, (Nef i ni)
Pur loyvv-lain, pair oleuni.
Mura [...]n Cynnyrch llewyrch llên.
Mewn mvvys-air, mvvy na Moesen.
Yn dyst Cyvvir. geirwir gvvâr,
A devvin, holl lu daear.
Uwch pob rhai, rhyglyddai glod;
Y mae'n ersai myn orfod;
A rhagorieith, berffeith bur,
O ran nerth, ar un Arthur.
Sigodd siol, Diafol dig,
Fall Uffernol. svvll ffyrnig
Er iddo, yrru Adda.
I fyvvyd drvvg. o [...]yd da.
Ac Efa, yn y gofid,
A bâr llavvn i beri llid.
A'u holl lin, ond blin fu'r bla,
I gaethfyd a'r un gvvthfa.
Llesg oeddym, ein llas gvvyddiad,
Yma heb [...]rym, y Mab rhad
[53]Trwy rinwedd, ei groywedd grôg,
Gorddofodd, y gwrdd ddyfiog.
Wrth farw ar hon galon glau,
Lluddiodd ing, lladdodd Angau.
A'i gyfodiad, gwiw fadwedd,
Uchas Ior, o rych ei fedd;
A wiri [...]'n glau, er iawn glod,
Dduw erfai, iddo orfod.
I for hael a fawrhawyd,
Am haeledd o'i fedd a'i fwyd.
Haelder, Ior a glodforwn,
Oedd achos pêr haelder hwn.
Hael yw Jesu, haul oesoedd;
Hy-lan yw, a hael iawn oedd.
Haelionus, am rymus rodd;
Hy-burddewr, am ebrwyddrodd.
Hael hael hael, tros fyd ydyw;
Hael a da rodd, haelder yw.
Ys da Duw Tâd, Ceidwad Cu,
Di os, mai da yw Jesu.
Pen teyrn, y teyrnedd,
A gad o'u rhyw, i gadw'r hedd.
Pen Escobion, ddyfnion ddysg;
Pur gywirddawn, pôr gwirddysg
Pen Prophwyd mawr, roddfawr Ri;
Praff awdwr, y prophwydi.
Pen ar gedyrn, trachwyrn trin;
Paun gwrol, pen eu gwerin
Goruwch haelion. gŵyr chwalu,
Ei rad llawn, î reidieu llu.
[54] Ei wehelyth syth y sydd,
Eureidd dwf, o Wraidd Dafydd.
Ac Abraham ddinam dda,
Wr addwyn, o ryw Adda.
Ei gorph jon, gorhoff per,
A'i lan enaid oleu-ner;
Ynt trwy weddus, ferthus fawl,
Oreu dawn o ryw dynawl.
Am ei berson, Cyfionfad,
Mâb yw i Dduw, byw heb wad.
Pe gallwn, mad geidwad cu,
Iddo fawl, a'i ddyfalu;
Yn Ufyddaf, am tafawd,
I'r Jesu yr assiwn wawd.
Gan nas gallaf, buraf Bôr,
Glymmu irwawd, glaim eurjor;
Gorthewi, a wnaf fi fel,
Gwir adyn, a goradel;
Mawl yr Ion, mal yr oedd,
I bregethwyr, brig Ieithoedd.
Jesu'n gwynfyd da ydyw;
Jesu'n rhan, sy un o'n rhyw.
Jaco ab Dewi.
1710.

Cywydd ar ddioddefiadau Crist.

ERglyw fy rghân o Arglwydd,
A phoed lân, a chaffed lwydd.
[55]Hoffwn dymunwn bob dydd
Ganu'n iawn, it gân nevvydd.
A hon am dy dîrion hedd,
Drvvy gariad, a'th drugaredd.
A'th ddaioni, i'th Ddinas;
A'th rodd rvvydd fodd, a'th rydd râs.
C'ruaidd iawn, fe'n carodd Iôn,
Lin vvael, pan o'em elynion:
A rhoddi drossom ni dravv,
Y byvvyd gvvyn heb beidiavv.
Colli er mvvyn ein gvvella,
Ei briod vvaed, mevvn pryd da:
Amrith fodd, amryvv weithiau;
Glan vvych rodd, er ein glan-hau.
Brodyr byddvvn, ni barod,
'Odde' gloes, dros Dduvv a'i glod.
Poen a ddugodd, pan aned;
O draul aeth, ei vvaed ar led.
Ail enir, ni'n olynol,
Bob rhai'n lân, bavvb ar ei ol.
E vvaedodd, pan Envvaedvvyd,
I'n rhydd-hau, ni o'n rhvvyd.
Ninneu 'n calonneu celyd,
Gvvnavvn yn bur, mae'n llavvn o bryd
Pan chvvyssodd gvvaedodd gavvad;
O fravv'n yr Ardd, cyn ei frâd
Chvvyssvvn ninneu'n hafiechyd,
A'n gvvŷn ddrvvg, yn ddagreu gyd.
E gurvvyd, cernodivvyd Crist,
Yn orthrvvm, yn rhy athrist.
[56]
Y styriwn ninneu'n wastad,
Roddi dwrn, i'r Adda dad.
C'ronwyd, drain-bigwyd ei ben,
A chroes d'rawyd, a chorsen.
Trwy syd, nag ofnwn tra fo'm,
Y drysswch, fe aeth drossom.
Chwippiwyd, ammharchwyd ym mhell;
A'i fin watwor, oi fantell.
Bwriwn ni, bob rhyw ennyd,
Yn barch i'n, bob ammarch byd.
Egr fu ei boen, ar y g [...]oes;
Dynion, yn dwyn ei eini [...]es
Bo ni barod farw beunydd,
Os rhaid heb ffael, ym mhlaid [...]ydd.
E gas frath go is ei fron,
A gwelwyd gwaed ei galon.
Am f [...]yn idd [...], bob munud,
Canwn fawl na f [...]ddwn sûd.
Ei gorph 'nol gorphen ei waith.
A gladdwyd, mewn craig eilwaith.
Bechadur, marwha bechod;
O fodd d [...]g yn ei fedd dôd.
Cysododd of cof ydyw.
Oi fawr sedd, o farw i fyw.
A thithau heb naccau côd,
Bechadur, o gwsg pechod.
Er ein mwyn, yn yr un modd,
Y Jesu gwyn esgynnodd.
Esgynnwn, byddwn yn bod,
Byth sych, am betheu s'uchod.
[57]
Eisteddoedd, caiff yn oestad;
Y braint hyn, ger bron y Tàd.
Dadleu mae, diammeu dôn,
Drwy ei swydd, dros ei ddynion.
Gwarantaf, cawn ein gwrando,
Gwnawn ein cwyn, er ei fwyn fo.
Ac fe'n dug, iw deg fynydd,
Bawb od awn i'w ôl bob dydd
Yn awr ddyn, pwy na roddai,
Ddwbl glod byth, i Dduw [...]heb lai.
Rho bardwn, er ei aberth;
A gwel Dduw, it gael ein gwerth.
Er ei haelder, rho eilwaith
Deg rad, i'n redeg y daith.
Duw ein pen, (fu'n dwyn penyd,)
Derbyn ni, wrth fynd o'r byd.
I i'th Nef Arglwydd, dragwyddol;
Amen F'ion, amen yn f'òl.
D. L.

Englynnion i'r rhai chwannog i gabiu.

LLe bo bai'n syrthio na ymsertha,
ddim
O ddamwain nis galla';
Angall ni ŵyr deall da,
A fo gall, ef a'i gwella.
[58]
Yr Annoeth goegwr na thawo, cablwr,
A'r cwbl o'r rhyw honno,
Welan y bai, le ni bo,
A'r lle bydd, f'a'r Ieirll heibio.
Y fron weddol na farno, nes deall,
Sydd gall yn fy moddio,
A farn air, heb fai arno,
Ffolaidd anfwynaidd yw fo.
D. L.

Wrth ymweled a Chlaf.

Duw Iôn Duw dirion Duw dorro, dy boen
Duw beunydd a'th Helpio,
A Duw gwyn uwch bryn a bro,
A'th glafychai'th ddiglwyfo.
Jesu a'i allu yn holl iach. a'th wnel,
M [...]'th welaf yn afiach,
Jesu gwyn, a oes gwannach?
Jesu wnel ei wâs yn iach.

Wrth fynd i gysgu, a chodi.

Cofia'r Ion cyfion Dduw cu, o'th fonwes,
Wrth fyned i gysgu;
A Duw fydd, ben llywydd llu,
I'th wilio'r nos i'th wely.
Cofia Grist ddidrist Dduw tri, y bore,
Yn barod wrth godi,
Dod ddiolch, dy waid vveddi,
Ni ddaw d [...]wg yn d'olwg di. Diwedd.

LLYFR BARDDONIAETH
O waith y Capten William Midleton, cymmwys iw ossod yma.

[59]

BArddoniaeth yw Celfyddyd, o ganu Cerdd Dafod yn dda. Sef yw hynny plethu ac eiliaw Caniadeu Cymreig yn Gerddgar Bencerddieidd. Pedwar peth a berthyn at Gerdd Dafod: Cymha [...]iad, Odl. Cynghanedd, a Mesur.

Cymhariad yw cymharu pob braich o'r Pennill, i gyd atteb a'r gyntaf: a hynny a ellir o ddau fodd: sef, Cymhariad Ddisgybl idd a chymhariad Bencerddiaidd. Dwyryw gymhariad Ddisgyblaidd y sydd: sef, cymhariad Llythyrennol, a chymhariad synhwyrol. Cymhariad Lythyrennol, yw cymharu y llythyren wreiddiol, ag un o'i rhyw yn gyssefin pob braich trwy'r pennill, fal hyn;

Pwy sy ddewrgwbl, pais ddurgorph:
Pwy a rwym Camp, o rym Corph.
G. H.

Cymhariad synhwyrol yw; pan fyddo'r [...]raich gyntaf heb gyflawn synwyr ynddi; [...]ithr gorfod eichyrchu at yr ail, i gyflawni'r [60] synwyr, heb gymharu 'r llythyrenneu gwreiddiol, fal hyn;

Rhaid fydd lle rho Duw ei fâr,
Dwyn eginyn, da'n gynnar.
T. A.

Cymhariad Bencerddieidd yw, pan fyddo rhyw orchest ar y gymhariad, mwy nag ar y ddwy uchod: a hynny a ellir o dair ffordd Sef, Cymhariad Lythyrennol Synhwyrol Cymhariad Gynghaneddol Lythyrennol a Chymhariad Gyfochr. Cymhariad Lythyrennol Synhwyrol yw, pan fyddo'r llythyrenneu gwreiddiol yn cyd-atteb, ac yn cymharu o'r un rhyw; ac yn cyflawni' [...] synwyr ddeftygiol yn y fraich gyntaf he [...]syd: Sef y ddwy gymhariad Ddisgyblaid [...] yn un, fal hyn;

Ni bu Rodn, Nai Beredur,
Negydd, o'i win nag o'i Ddûr.
G. G

Cymhariad Gynghaneddol Lythyrenno [...] yw, pan fyddo'r hanner cyntaf i'r Fraich yn atteb mewn croesgynghanedd, i'r han [...]ner olaf o bob Braich trwy'r Pennill fal hyn;

Wyd Awdur dîwyd ydyn,
Jôn didwyll hynny dwedwn,
Nid odiaeth un od adwen,
Ond ydoedd o waed Odwin.
M.

A hyn a deallir yn eglur, pan soniwyf a groes-gynghanedd gyfan.

Cymhariad Gyfochr yw, pan syddo d [...] [61] [...]yllafog eirieu'n dechreu'r Mesur; er [...]orri'r Cymhariad lythyrennol ar y gyt [...]ain wreiddiol rhaid iddynt gyfochri yn un-sain mewn accen dderchafedîg, fal hyn;

Mannau mwyn am Win a Medd,
Tannau Miwsig ton maswedd.

Os bydd Bogail yn atteb i Gytsain, nid torr Cymhariad ydyw, fal hyn;

Nid cyfled gweled y gwir,
Ar ei w [...]neb a'r anwir.
J. S.

Neu Fogail yn atteb i amryw fogail arall, fal hyn;

Urddedig arwydd ydoedd
Ethol Myrr o Fethlem oedd.
D. E.

Ni thyrr Harwydd ychenaid, na chyngha [...]edd na Chymhariad: Ac os Bogail a sydd gwreiddiol yn y fraich gyntaf, Cytsain ni thyrr' gymhariad, fel hyn;

Awn i Bûn yno beunydd,
Glas a gwyn dan glos y Gwydd.
D. E.
Bellach soniwn am Odl.

Odl yw cydatteb saîn, mewn syllafeu perthynas: a [...]ynny sydd o ddau ryw; sef Unodli a Phroestio. Unodli yw, bod syllafeu o'r un rhyw yn cydatteb iw gilydd; [...]aill ai mewn perfedd Braich, neu'n y brif Odl. am y gyntaf, mi a'i dangosaf mewn lle cyfaddas; sef ymmysg y Cynghaneddion. Eithr unodli yn y brif Odl yw pan fyddo syllafeu unrhyw, yn atteb [62] i'w gilydd, ac yn unodli, trwy'r caniad neu'r Pennill: ac at y rhan hon y perthyn anian rheoly Syllafeu oll: Canys ni unodla a syllaf dalgron, onid talgron arall, a hynny o'r un bwys, o bydd y ddwy o accen dderchafedig: Bogail a unodla a'r un fogail: Lleddf a lledd [...]: Dipthong a Dipthong o'r unrhyw: a'r rhai'n o'r un Bogeilieid a Chydseinieid fal hyn;

Talgron.
Mingamai hi mewn gwmon,
Morcath a'i brath dan ei bron.
J. G.
Lleddf.
Ychen ynt cochion unoed,
Uwch eu Cyrn na breichieu coed.
Ll.
Dipthong
Mal y sydd, a maels iddaw,
Mae fal Draig i'mafael draw.
Ll.

Ni chydwedda mewn perfedd braich, yn enwedig yn yr orphwysfa; syllaf i unodli a'r brifodl: hefyd ni ddychon yr un gair fod ddwy-waith ar y brifodl, (oddieithr mewn Cywydd) oni bydd fynychach, neu 'n tr [...]ethu ysmalhawch cariad; Odl hesyd a ddychyn fod o gûdd Lythyren o'r gair a fo'n dilyn fal hyn;

Dysgais i godi gyda'r, Ehedydd,
A rhodio'r un dalar: &c. J o Garno.

Proestio yw newid Bogeiliaid neu Ddipthongieid, ac heb newid Cydsonleid yn y [63] brifodl. Dau ryw broest y sydd; Proest Cyfnewidiog a phroest Cadwynodl. Proest cyfnewidiog yw, pan newidier pob prif [...]dl o'r mesur a'r syllafeu, o'r unrhyw, fal hyn;

O'r gwinwydd daroganent,
O ganon [...]o Ogoniant,
O ward bron dan euraid brint,
O wir gorph oedd wyry gynt.
L. G.

Ni chydwedda syllaf yr orphwysfa, i broestio a'r brifodl. mewn braich o bennill unodl. Proest Cadwynodl yw, pan fo'r fraich gyntaf, a'r ail, yn proestio; &c. a phob yn ail fraich yn cydodli, fal hyn;

Myfi im Dnw, hoywdduw hynt,
A ganaf, ei ogoniant:
A wnaeth im helaeth helynt,
A gwir ddawn ac Urdduniant.
M.

Ni chydbroestia, onid syllafeu o'r unrhyw. Digon yw hyn o son am Odl; soniwn bellach am y Cynghaneddion.

Cynghanedd yw, eiliaw a phlethu braich o bennill ar gerdd Dafod. Dwy ryw Gynghanedd y sydd; Sef, Cynghanedd groes, a Chynghanedd unodl. Cynghanedd'groes yw, pan fo'r cytsonieid o flaen syllaf yr orphwysfa, yn atteb i'r rhaî ar ol. Dwy ryw gynghanedd groes y sydd; sef, Cynghanedd draws, a chynghanedd groes gyfan.

[64]Cynghanedd draws yw, pan fo un gytsain, neu fwy, yn atteb i'r olaf; a'r rhai nesaf etti ar draws y geirieu l'anw, yn y perfedd. Y gytsain gyntaf yn atteb i'r nesaf at y brifodl fal hyn; ‘Tad, Brodyr, Neiaint, Plant aeth. T. A. Dwy gytsain yn atteb i ddwy fal hyn, ‘Bygwth y mae'r gloyw bigau. D. G. Tair ‘Gleision, fal Wybr goleusyth. D. G. Pedair. ‘Byrblu rhewedig berwbla. D. G. Pump. ‘Gwae a fai'n brudd, rhag ofn brad. G. I. Cynghanedd groes gyfan, a blethir o'r holl gytsonieid a fyddont o flaen syllaf yr Orphwysfa, yn cydatteb olynol a'r rhai o flaen y brifodl, drwy gyfnewid bogeilieid fel hyn, ‘Pur yw ei glôd Pôr y glyn.’ Dwy ryw groesgynghanedd gyfan y sydd; sef crees rywiog a chroes a frywiog. Croesgynghanedd gyfan rywiog yw, pan fo gair yr orphwysfa a gair y brifodl yn unsyllafog: neu pan fo gair yr orphwysfa yn lluaws-syllafog a gair y brifodl yn lluaws-syllafog hefyd: ac yno y gellir ei throi wyneb yngwrthwyneb, fal hyn;

Am hen Iarll mae hyn o iawn.
I farnu a fu arnynt.
L. M.

[65] Croesgynghanedd gyfan afrywiog yw, pan o'r gair o flaen yr orphwysfa, yn unsylla [...]og, a gair y brifodl yn lluaws-syllafog; [...] nas gellir ei dattroi wyneb yngwrth [...]yneb fal hyn, ‘Ym mhob ing ym-mhob angen. D. N. [...]ae hefyd yn rhydd wrth eiliaw croes [...]ynghaneddd, adu y llythyren N, pan fo [...] yn gyssefin, (sef yn lythyren wreiddiol, [...]eu'r fl [...]enaf gytsain o'r fraich) heb un [...] atteb iddi ar ol yr orphwyssa; ac yno [...] gelwir cynghanedd N coll y gyntaf. fal [...]yn,

Ni roi dol [...], ar ei wawd yn,
Ni bu'n frith, bin o'i frethyn.
R. N.

Gochelwch ym mhob croesgynghanedd, hag bod marchawglythr, heb fogail hyngthi a'r marchawg yn syllaf yr or [...]hwysfa; oni bydd syllaf o'r unrhyw iw [...]atteb, yn y nesaf at y brifodl.

Cynghanedd unodl yw, pan fyddo'n un [...]dli o fewn cenol y fraich. Dwy ryw gyng [...]anedd unodl y sydd: Unodl Lûsg ac [...]nodl sain.

Cynghanedd Lûsg yw, pan fo rhyw syll [...]f o flaen y chweched yn unodli ac yn llus [...]o at y chweched, a'r brifodl yn accen descynnedig, fal hyn; ‘Goreu bugail i'r dailiaid. Ll [...] o gyswllt cydsonieid fel hŷn; [66]Nid y ci carth flew arthfloch. J. G. Ni wedd cynghanedd lusg ar y fraich ola i'r un o'r mesureu.

Cynghanedd sain unodl yw. pan fo'r gwan [...] a'r rhagwant yn unodli; a'r rhan o' [...] fraich ar ol y rhagwant yn cynghaneddu a'r rhagwant, drwy gydatteb cydson [...]ieid, a chy [...]newid bogeilieid; ac nid oe [...] mesur hyd y gwant na'r rhagwant, mwy na gorphwys [...]a cy [...]ghanedd lûsg. fal hyn ‘Plaes, to dulas ty deiliawg. J. T. Ni chydwedda yn unodl y sain, ddwy sylla mewn accen dderchafedig, oni byd [...]an [...] un bwys. Sain ddwyblyg, fal hyn, ‘Por, dor, dar, gwanar gwinau. J. G. Gellir hefyd a hynny'n orchestol oso [...] amryw gynghaneddion ar yr un fraich; sef sain o gyswllt, a chroesgynghaned [...] ynghyd, fal hyn; ‘I gelliwig ac iw llys. Sp. V. Saingroes. ‘Aeth hiraeth i wyth harri. L. M. Seingroes o gyswllt goll y gyntaf; ne [...] ewinog ar air mwys, fal hyn, ‘Nan Conwy man cawn y medd. M. Sain, traws o gyswllt, a chroes ddwbl gy [...]swllt ewinog, fal hyn, ‘Syr o'i ryw syr o'r oes hon. L. M. A'r holl gynghaneddion ar yr un fraich trwy orchestion, mewn saith modd barn [67] [...]nt yr athrawon, fal hyn, ‘Tro ym tro yma at Rys. M. Digon bellach yw hyn o amnaid, i rybu [...]dio'r Darlleydd athrylithgar, i chwilio [...]erdd yr Athrawon Awduraidd Pencerdd [...]awl, lle cânt weld eu gwala o siampleu gorchestawl, os craffant ar y cynhildeb.

Bellach soniwn am y mesureu.

Mesur yw rhif nodedig o syllafon, mewn braich neu o rifedi breichieu mewn [...]ennill. Rhif neu nifer y syllafon mewn [...]raich, a elwir Cyhydedd. Dwy ryw Gy [...]ydedd sydd; sef cyhydedd mesur; (ac am [...]onno y soniaf ym mysg y mesureu) a [...]hyhydedd braich. Saith ryw gyhydedd braich y sydd, sef saith Golofn cerdd Da [...]od; ac fel hyn y dosperthir hwynt; y Gyhydedd ferr, a fesurir o bedwar syllaf newn braich, y gyhydedd wen o bump; y gyhydedd las o chwech, y gyhydedd gaeth [...] saith, y gyhydedd draws o wyth, y gyhydedd drosgl o naw a'r gyhydedd hir o [...]deg syllaf, fal hyn,

Gruffydd griffwn,
O dad Owein Dwnn,
Brau wyt Wyr Robert Dwnn.
L. M.
Praffwydd wyd Imp Ruffydd Dwnn,
Praffwaed dydd [...]daed. M [...]redydd Dwnn,
Pwy yn rhoi dy Aur pai Henri Dwnn.
Pwy'n orhoff dda da pai hen Ruffydd Dwnn.

[68]Mesur sef pennill. yw nifer o frei [...]hie [...] ar un neu fwy o'r Cyhydeddion, trwy ga [...] dw cymhariad, cynghanedd, Gair cyrch [...] Gair toddaid, Cyfochriad, ar yr un can [...] ad. Tri rhyw fesur sydd; Cywydd, Owd [...] ac Englyn. Tri rhyw fesur Cywyd [...] sydd; sef, Cywydd deuair, cywydd llo [...]gy [...] nog, ac Owdl gywydd. Dau ryw gy [...]ydd deuair sydd; sef cywydd deuair syrrio [...] a chywydd deuair hirion. Cyn dechre [...] dosparthu un o'r mesureu, rhaid im [...] ar lawr reoleu cyffredin, a berthynant a [...] bob un o'r mesureu: Bellach llyma'r rhe [...] oleu i gysylltu ynghyd y cymhariade [...], y Odleu y Cynghaneddion, a'r Mesureu

1 Pob Cymhariad, a wsnaetha 'mho rhai o'r mesureu.

2 Pob Odl, o bydd hi'n unrhyw a'r [...] gyssefin flaenor unodl fydd, a chywir ga [...]iad drwy'r mesureu, eithr mewn Proest.

3 Ni chenir Cadwynfyr, na Gorchest beirdd heb groes gynghanedd ym mho braich.

4 Pob Cynghaned [...] a wsnaetha, ac gynghanedda yn gywir ganiad, ym mho mesur arall.

5 Edrychwch am orchestion y Mesu [...]eu wrth ddosparthu pob pennill ar ben ei hun. Pennill o Gywydd deua fyrrion, ddylwn yn nesaf son am dan [69] A hwnnw a fesurir o ddwy fraich, o'r Gy [...]ydedd ferr; sef pedwar syllafog bob [...]raich; y naill a'r brifodl yn accen dderchafedig, sef gair unsyllafog; a'r llall yn accen ddescynnedig, sef gair a mwy nag [...]n syllaf yn y brifodl, fel hyn;

Croyw fir cryf fedd,
Cof yw cyfedd.
S. V.

Pennill o Gywydd deuair hirion, a fesurir o ddwy fraich, ar y Gyhydedd gaeth; sef saith syllaf bob braich. ac yn unodli ar accennion amrafael, fal deuair fyrrion, fel hyn;

Yspys y dengys y dyn,
O ba radd, y bo'i wreiddyn.
T. A.

Pennill o Gywydd Llosgyrnog, a fesurir o ddwy fraich o'r draws gyhydedd, yn unodl a syllaf gorphwysfa y gynghanedd yn y Ll [...]sgwrn, fal gair cyrch; a'r llosgwrn yw y drydedd fraich ar y gaeth gyhydedd yr hwn sydd yn arwain y brifodl drwy'r Cywydd, fal hyn;

Yr hen ddaiar hon a dduodd,
Y gloyw Awyr a ddrwgliwiodd,
A grynodd p [...]n goroned.
Sp V.

Owdl gywydd. a fesurir o ddwy fraich o'r gyhydedd gaeth, yr odl olaf o'r fraich gyn [...]af, yn cyrchu'n unodl, ac mewn amryw accen, at air yr orphwysfa, yn yr all fraîch, sef ar air cyrch, a'r odl olaf yn un [...]dli [70] drwy'r cywydd: Rhaid i'r gynghanedd yn y fraich olaf, fod yn gynghanedd groes rywiog, fal y galler troi Owdl gywydd, yn gywydd deuair hirion, fal hyn;

Llwyth Trefor llu waith trafael,
S. V.
Llew ebrwydd hael, llwybraidd hedd.

Darfu son am Benhillion o Gywydd; Y [...] ail gaingc o brydyddiaeth yw Owdl. Owd [...] yw caniad o amryw fesureu, yn ol y [...] arfer sathredig; eithr wrth gerdd y tr [...] Phrifardd, a dull Cynddelw, ac arfer hol [...] Ieithoedd Europa; ni ddylai onid un mesur fod yn yr un caniad; a pha fesur y dechreuer, cynnal hwnnw trwy 'r Owdl pe Gorchest y beirdd fai: Ac os hir [...]ydd ai'r caniad, mae'n nhydd newid y brisod [...] Wyth mesur Owdl y syd [...]; Cyhydedd, Toddaid Gwawdodyn, Hupynt, Cadwyn se [...]sur, Cyrch a chwtta Clogyrnach, a Go [...]chest y Beirdd

Tair Cyhydedd mesur y [...]ydd; sef cyhy [...]dedd wythban, cyhydedd [...] ban, a'r Cy [...]hydedd wendrosgl.

Cyhydedd wythban yw, pennill o bedair [...]raich ar y draws gyhydedd; se [...] [...]yth syllafog bob braich, ac yn unodl drwy' [...] Owdl neu'n proestio; fal hyn,

I'r Mâb cyf [...]rchaf rhwyddaf rhin
I'r Tâd a'r Yspryd gloywbryd, glân,
[71]Neud mau yw cofiau can i'm cyfun,
Nid rhaid i'm ammeu llyfreu llên.
Tal.

Cyhydedd nawban, a fesurir o bedair braich, ar y Golofn drosgl, a phob braich yn unodl drwy'r Owdl, fal hyn;

Na bo'n un aelod boen anialwch,
Na gwe [...]w i'w ddilyn nâg eiddilwch,
Er y dwfr Restrwaed i farw rhwystrwch,
Er y gwirion waed fab gwrando f'ebwch.

Y gyhydedd wenndrosgl. a fesurir o dair braich, y ddwy gyntaf o bum syllaf bob un, yn unodl a gair yr orphwys'a yn y drydedd fraich, fel gair cyrch; a'r drydedd o naw syllaf, yn arwain y brifodl, drwy'r Owdl, fel hyn,

Torr w [...]yw at yr Ais,
I'th ddwrn a'th harnais,
Trech yw na malais trichan milain.
G T.

Toddaid yw mesur o ddwy freich, lle bo gair ar ol y brifodl yn y fraich gyntaf yn toddi, o dri syllafl ddau, o ddau i un. Y [...]raich gyntaf yn wastadol o'r mesur hyn a fydd o ddeg syll [...]f sef ar y gyhydedd hir; [...]r ail fraich fydd naill ai o chwech, ai o [...]aw, ai o ddeg syllaf Pa gynghaedd bynnag, [...]o'n y fraich gyntaf; rhaid ir orphwysfa [...]od yn y pumed syllaf; Ac os cynghanedd [...]ain fydd yr hon sydd naturiolaf yn y man hyn, fo ellir goddef y gwant, lle fynner, [...]m y ho'r rhagwant yn y pumed syllaf: [72] A'r ail fraich sef chwech syllafog, yn atteb i'r gair toddaid naill ai ar gynghanedd [...]ain neu ar gynghanedd bra'dd gyfwrdd, hon sydd rydd iw chanu'n y fraich yma; (ac mewn un o'r me [...]ureu, onid y fraich olaf i hwn, nid rhydd i'w chanu, a phaladr Englyn unodl union) a'r bri [...]odl cyn y gair toddaid yn unod [...]i a'r olaf o'r ail fraich, ac felly trwy'r mesur.

Da rhydd am gywydd i'm gaeau, a main
Eiliw monwes deg [...]u; &c.
J. D.

A thoddaid o'r mesur hwn, ni chenir, ond ynglyn âg arall, am hynny toddaid ynglyn y gelwir.

Eithr o bydd yr ail fraich i'r toddaid o naw syllaf neu ddeg, rhaid i'r gynghanedd fod, naill ai yn sain at y gair tod aid, neu'n groesgynghanedd. ac vn atteb ar yr orphwysfa i'r gair todda [...]d; yr hwn sydd yno'n a'r cyrch: os naw fydd fal hyn,

Oes ffawydd na n [...]dd neu Onn, yn wewŷr.
Oes brenffyr nas gyr yn ysgyrion.
D. N.

A thodd [...]d deg syllafog yn yr ail fraich, ar groesgynghanedd, fal hyn,

Fal gwlith awyr ffr [...]th ar ffrwythau'r ddaiar
Fal grawn fal adar fal gro neu flodau.
T.A

Dau bennill a henyw o doddaid sef, byr a thoddaid, a hir a thoddaid.

Byr a thoddaid a fesurir, o doddaid o un syllaf ar bymtheg yn gyntaf; a phedair [73] braich wyth syllasog; sef, ar y gyhydedd draws; a thoddaid o'r unrhyw ar ol, yn unodl oll fal hyn,

Duw Arglwydd o rwydd wiw ras, da olud,
Oni'deila gwnn blas,
Ail oferwaith i lafurwas,
Dwl pwl iawn geisio adail plas.
A Duw oni wilia Dinas,
Oferwr gwiliwr a phob gwas:
Duw yw'n gwiliwr gwr a'i guras gadarn,
Duw a geidw bawb addas.
M.

Os y mesur hwn a genir drwy'r Owdl, nid rhaid ond un toddaid rhwng pob pedair braich.

Hir a thoddaid a fesurir o bedair braich o'r gyhydedd hir, a thoddaid o ugain syllaf ar ol yn unodl drwy'r Owdl, fal hyn;

I Fair da weini [...]ith a fu'r dewinion,
O raith resymol wrth eirieu Simeon,
Mawr oedd i'r ddeulu myrdd o urddolion,
Ymgais a'r seren, megis rhos irion,
Gwiriondeb Sioseb dewisason hi
Gadu'r gair iddi gyda'r gweryddon
G.T.

Gwawdodyn yw mesur, o amryw rifedi [...]reichieu ar yr un golofn, a hynny a wna [...]dau ryw wawdodyn; sef gwawdodyn byr, [...] gwawdodyn hir.

Gwawdodyn byr a fesurir o ddwy fraich [...] y gyhydedd drosgl, a thoddaid o bedwar [...]llas ar bymtheg ynglŷn, ac yn unodl [74] trwy'r Owdl, fal hyn;

Ni p [...]ery Onnen i'w pheirianneu,
Dan dewin ddyrnod ond yn ddarneu:
Ewinawg osawg aseu braich a bron,
A nyddai linon yn ddolenneu
T A.

Gwawdodyn hir a gyfansoddir o bennill, ar Owdl a elwir, Cyhydedd naw ban; sef, pe [...]air braich ar y gyhyd [...]dd drosgl a thoddaid o bedwar syllaf ar bymtheg, ar ol yn unodl drwy'r Owdl. fal hyn;

Yn iach na helwyr na chynhaliaeth,
Na meirch o arial na marchwriaeth
Na Gweilch i'w harwain na gwalchwriaeth
Na chwn awyddus na chynny Idiaeth,
Na cheision mwysonam wasanaeth gwledd
Na chog i Wynedd na chogu [...]iaeth
T. A.

Hupy [...]t yw mesur a rydd i'r Bardd rydddid, i g [...]nu na [...]ll ai'n gynghaneddol ai'n gyfochr. Dau ryw Hupynt sydd; sef, huppynt byr a Hupynt hir. Hupynt byr a fesurir o ddwy fraich; y gyntaf ar y gyhydedd fer o bedwar syllaf; y llall ar y gyhydedd gaeth o saith syllaf; hefyd y [...]raich gyntaf ar air cyrch, naill ai mewn cynghanedd neu'n gyfochr yn atteb i'r orphwysfa, yn y pedwerydd syllaf o'r ail fraich; a'r olaf yn unodl trwy'r Owdl, fal hyn;

E gasgl i g [...]yd,
Y bobl o'r byd, bu abl o'r bôn:
[75]At blant bu lwydd,
M.
Abram ebrwydd arwydd wyrion.

Hupynt hir a fesurir o dair braich, sef dwy fal hupynt byr; ac un arall fal y gyntaf o'r ddwy; fel hyn,

I't f'eidduned,
Wyt ddymuned,
Eiiwedd Luned, wylweddw lonydd.
Uthr dolmi [...]is,
O'th serch curi [...]is,
A llafuriais fy llyferydd.

Cadwyn-fesur yw pennill, lle cadwyner y cynghaneddion yn o [...]chestol. Dau ryw Gadwyn-fesur sydd; sef cadwyn fyr, a chyfochr gyrch Cadwynog.

Cadwyn-fyr a fesurir o bedair braich ar y gyhydedd draws; a phob bralch yn cynghaneddu, bob ail syllaf drwy bob braich; a'r gair olaf o'r fraich gynt [...]f yn cyfochi ar air cyrch, at orphwys a'r ail; a'r olaf o'r drydedd fraich yr un modd, ar air cyrch cyfochr, yn atteb i'r orphwysfa a'r bedwaredd, yn unodl; a'r pedwerydd syllaf o'r fraich gyntaf a'r olaf o'r ail, a'r pedwerydd syllaf o'r drydedd fraich, a'r olaf oll yn unodli trwy'r Owdl, fel hyn;

Elis eiliog o'i lys olau.
Eilwad olau i wlad elwog:
Euran warrog o ran orau,
Ar y dorau ŵryd eurog.

[76] Cyfochr gyrch cadwynog a fesurir o bedair braich ar y gyhydedd draws fal cadwynfyr a Hupynt hir ynglŷn âg [...]f î gwplau'r mesur: he [...]yd y syllaf cyntaf o'r fraich gyntaf; y syllaf olaf o'r ail fraich; a'r syllaf olaf o'r bedwaredd fraich, yn unodl gyda phrifodl yr Hupynt; ac felly trwy'r Owdl: a'r trydydd a'r pedwerydd syllaf o'r fraich gyntaf, yn unodl gyfochr, a'r trydydd a'r pedwerydd syllaf o'r drydedd fraich; a'r ddau syllaf olaf o'r fraich gyntaf, yn unodli a'r trydydd a'r pedwerydd syl [...]af o'r ail fraich yn gyfochr ar air cyrch; ac felly y ddau syllaf olaf o'r drydedd fraich yn att [...]b yn gyfochr unodl ar air cyrch, i'r trydydd a'r pedwerydd syllaf o'r bedwaredd fraich fal hyn;

Gereint [...]wlen, gwr nod calis,
Rod a phalis, rhed a philer,
Hyd y Mwlen, hwd [...]'u malis.
Mwy Iaith Alis, yma'th hwyler:
Capten [...]iasau,
Cestyll, Plasau,
Gwyr Curasau, a grog croeser:
Iacheist gasau,
Galanasau.
A [...]bydtrasau, i chwi troser.

Cyrch a chwtta a fesurir o wyth braich; y chwech fraich gyn [...]af, fal tri phennill o gywydd de [...]air hirion yn unodl; a'r ddwy [77] olaf fal pennill o Owdl gywydd ar air cyrch ond nad [...]ha [...]d cadw accen; a'r fraich olaf yn unodli, a'r chwech gyntaf; ac felly'n arwam y brifodl trwy'r Owdl, sel hyn;

Erfai yw'r llys ar for llon,
Hyn o les a wnai Leision:
E gair gwres, yn y gaer gron,
E gair seigieu-gwresogion;
A'r Ceirw fry o barceu'r fron.
A'r Eogiaid o'r eigion;
A gwenith a phob gwinoedd,
Mae'r t [...]roedd a'r mor tirion. L. M.

Clogyrnach a fe [...]urir o bum braich: y ddwy gyntaf ar y draws gyhydedd o wyth sylla: bob un [...]; y ddwy ganol o bum syllaf bob un ar y gyhy edd wenn; a'r claf o chwech sylla [...] ar y gyhydedd las: y fraich gyntaf ar ail, a'r ol [...]f yn unodli trwy'r Owdl; a'r drydedd a'r bedwaredd fraich yn unodli ar air cyrch, â'r trydydd syllaf o'r fraich olaf, fal hyn;

Y Prophwydi puraf hediad,
Aml o rinwedd a'i mawl ranniad;
Drwy gerdd draw a gair,
I un mab Ion Mair,
I'w gadair a'i godiad.
M.

Gorchest y Beirdd a fesurir o dair braich; y ddwy flaenaf o bedwar syllaf bob un, ar y gyhydedd for: a'r olaf o saith syllaf ar y [78] gyhydedd gaeth: a'r ail syllaf o'r fraich gyntaf yn unodli a'r ail syllaf, o'r ail fraich, ac a'r ail o'r drydedd; hefyd y syllaf olaf o'r fraich gyntaf, a'r olaf o'r a [...]l, yn unodli ar air cyrch a'r pedwerydd syllaf, o'r fraich olaf; y syllaf olaf o'r fraich olaf, yn arwain y brifo [...]l trwy'r Owdl. Ac o fewn pob pedwar syllaf o'r deudd [...]g cyntaf, yn croesg ynghaneddu'n rhywiog, ac yn unodli wyneb yngwrthwyneb: y tri syllaf olaf yn croesgynghaneddu a'r pedwar blaenaf, yn y fraich olaf: fal hyn,

I'r drwg, ward rydd,
Oer wg e rydd.
A dwg, y dydd, dig i'w dal.
M.
Soniwn bellach am Englynnion.

Ynglyn yw mesur, a genir naill ai ar ei ben ei hun ai mewn gosteg, neu mewn Owdl Dau ryw ynglyn y sydd, sef Ynglyn unodl, ac Ynglyn Proest Tri rhyw Ynglyn unodl sydd: sef unodl union unodl cyrch, ac unodl crwcca: Engly [...] unodl union, a gyfansoddir o ddau fesur; sef To [...]daid o un syllaf ar bymtheg a p [...]ennill o Gywydd deuair hirion ar ei [...]l ynglŷn ag ef: fal hyn,

Jesu i'n caru sy'n dwyn coron, Nef
Jesu Naf Angylion,
Jesu yw Jor yr oes hon,
Jesu a geidw ei weision.
L. Gl.

[79] Gosteg yw caniad o ddeuddeg Englyn unodl union yn unodl trwy'r caniad. Englyn unodl crwcca. nid amgen mesur Nag unodl union, [...]ithr gorfod gossod Y p nnill o gywydd deuair hirion yn flae [...] af a'r Toddaid ar ol fal hyn;

Braidd yn fyw bereiddwen ferch;
Briw digwyn bradog annerch:
Briwiad osodiad fy serch, ar loer gwlad,
Brad anfad bryd wenferch.
R M.

Englyn unodl cyrch a fesurir, ac a genir, sal y pedair braich olaf i gyrch a chwtta, sal hy [...];

Gwenferch odidawg winfaeth,
Gyrrodd i w [...]n gûr oedd waeth:
Gerydd dig wiwrudd deg [...]u,
Gryd asau gyrru dwysaeth.
R. M.

Englyn Proest yw mesur heb unodli fal yr holl fesureu eithr yn Proestio. Dau ryw Ynglyn proest sydd; sef proest cyfnewidiog a Phroest cadwynodl: Proest cyfnewid og a fesurir yn un hyd ag unodl cyrch; eithr lle dylai y brifodl fed mae'r syllaf olaf yn cy'newid bogeil neu ddipthong ac yn cadw'r un gytsain, trwy'r pedair braich, mewn syllafeu o'r unrhyw, fal hyn;

Gwynedd am ein gwledd mae'n gloff.
Marw llew'r Prins mae'r lloer heb priff,
[80]Marw'n pen a'n Capten a'n cyff,
Marw Salbri i'm a'r sel braff.
T A.

Proest cadwynodl a fesurir o'r [...]un hyd a phroest cyfnewidog; eithr bod y fraich gyntaf a'r ail, yn Proestio yn y syllafeu olaf o bob braich; a'r drydedd yn Proestio a'r bedwerydd; felly y fraich gyntaf yn unodli a'r drydedd a'r fraich ail yn unodli a'r olaf yn y syllafeu olaf, bob braich, fal hyn

Eglwyswr teg o Leision,
Apostol o fab Jestyn,
Ail Daniel o wlad Einion,
Allwedd dysg a lleuddad wyn.
L. M.

Rhydd [...]'r Prydydd gysylltu'r mesureu.

Y neb a chwennycho wy [...]od ychwareg, darllened Ramadeg Ieuan Dafydd Rhys.

Englyn [...]on am feddwi, &c.

LLywodraeth 'sywaeth y sydd, yn pallu,
Nid p [...] yllog yw'n cresydd;
O Jesu deg nos a dydd,
Y [...]ed mae pawb yn usy'd!
Meddwi a llenwi tri lloneid rhyw fol,
Rhyfela fal Diawleid;
Cryf a gwan cy an v [...]ceid,
O'r iawn yn lladd yr en [...]id
Rhai'n cyrchu chwdu, rhai'n chwith, eugwele [...]
[81]A'i golwg yn lledfrith,
Rhai'n gwario, a rhai'n gyrrith,
A rhai'n meddwi, ym mhob rhith.
Pwylla a gwilia galyn oer sariaeth,
Ddrwg arfereu meddwyn,
Meddwi a llenwi pob Hynn,
Yfed nes methu'i osyn.
Huw Rob.
Gwell arfer tymmer y taid, o'i dylwyth
Na dilyn rhai ffoliaid
Gw [...]ll peidio brwysgo heb raid,
Gwall i un goll ei enaid.
Colli braint y saint ydd ys heb, Iechyd,
O achos g [...]othineb.
Colli'r enw, a'r callineb,
Colli Nef [...]id call i neb
Rwy'n bario c'rowso cur yssig, i'r pen
A'r poeneu sy ffyrnig.
Da [...]awn i ddyn a di ddig,
Ei chodi bob ychydig.
Llwyr drais ni cherais i'ch hyn, a chrowso
A chroesi'r ffiol rhyngthyn,
Llenwch ac yfwch y llyn,
B [...]wb ei ran bob y ronyn.
Yfed yn galed heb gy wilydd, Bi [...]
Bore a diwedd-dydd,
Nid oes pen nâc Ymmhenydd,
Meddaf fi nad meddw a fydd.
Anifail o gail a gaid yn dofi,
Ond y ed ei gyfraid,
A dyn ffôl, o Duw ni phaid,
[82]Myn lanw mwy na'i lonaid.
Bob dydd oll y bydd lle bo, tafarn,
Etifedd a fetho,
Y pen ofer pan yfo,
Swrth yw'r grefft, a syrth i'r gro.
Nid teg it redeg at rwyd, y ta [...]arn,
Etifedd drwg ydwyd,
O waith deillion i'th dwyllwyd,
Dall boeth ddyn, deall beth wyd.

Am yfed Iechyd.

Yfed dwys yfed y sydd, ar uchaf,
Yr Iechyd [...]gilydd;
Yno calyn y cwilydd,
O'r Iechyd afiechyd fydd.

I'r Cybydd.

Ond gressyn i'r dyn anudonol, gwrs,
Gwerthu gorsedd nefol,
Crist a'l d [...]yrnas rassol,
Am un Acr dir mewn cwr dol?
Cybydd casglu bydd, dda byd, i'w cad
Ac etto mewn dragfyd,
Ac arall mewn seguryd,
A'i fâr a'i gwasgar i gyd.
Er cael stâd y wlad lydan a'i chyfoeth,
Ni chafodd mo'i amcan,
Y studio bydd ni rydd ran,
Myfyrio am fwy arian.
[83]
Os bydd aml awydd i'mlowio, a'r byd,
Er ei boen yn gweithio,
Pa fwya'n graff a gaffo,
Mwyaf fydd ei awydd o.
Ffy [...]d faith na gobaith gan gybydd, nid oes
Ond yssu mewn awydd.
Heb wybod nod a [...]edwydd,
Pwy o'r boen a biau'r budd.
Er bod dull hynod yn llawnion, ei dai,
A'i diroedd yn ffrwythlon,
Ni wŷl g [...]el syth, dichwyth don,
Yma ddegwm ei ddigon.
Cau'r porth Duw'n cymmortho, a wna'r cybydd,
Ar y cwbl sydd eiddo;
E ddaw'r Angeu dan ddringo,
I'w dy'n fain at ei En so.

Yn erbyn Balchder.

Oes urddas na Phlas na phleser, na chost,
Na chestyll na gwychder;
Na dim a wnaeth ein Duw Ner
Dan Nefoedd nad â'n ofer.

Dwyfol.

Moliant gogoniart gwiw gynnydd, i Dduw
Am ei ddonieu'n ufydd;
Efe roes efo a rydd,
Yn ddi boen i'n dda be [...]nydd.
[84]
Dan Dduw goreudduw y gorweddaf, i lawr
Dan ei law y [...]ysgaf;
A than dy nerth un Duw Naf,
Y ceidwad mawr y codaf.

Ychydig Ddirifeu ar amryw Destunieu, (can's felly gelwir hwynt o'r arddodiad di a rhif, am nad ys yn edrych at gyhydedd y fraich wrth eu canu; ac nid Durieu neu Dyrieu, fal y tebyg rhai) er mwyn y rhai sy'n caru synwyr yn fwr na ch [...]nghanedd; gan na thâl cynghanedd heb synwyr ddim.

Y Mae'n haws adnabod dynion,
Wrth eu chwanteu a'u hamcanion,
Na'u hadnabod yn ddiammeu,
Wrth weithredoed ac wrth eirieu.
Nid yw'r gwaethaf yn gweithredu,
Llawer drwg y mae'n ei chwantu,
Llawer gwaith rhag digwydd iddo,
Gael ei gospi a'i g'w lyddio.
Ac nid yw y goreu o ddynion,
Mor ddaionus ac y mynnon.
O eisieu nerth a rhinwedd amlwg,
Ac waith bod eu h [...]nian cynddrwg.
Goreu doethde [...] yw difr [...]fwch,
Goreu Physyg yw sobreiddiwch,
[85]Ac o'r golud a'r meddianneu,
Cydwybod dda yw'r tryssor goreu.
Rhad a rhinwedd addysc hyfryd;
Ydyw enaid dyn a'i fywyd,
Heb y rhai'n nid byw o hono,
Er bod chwyth ac anadl yntho.
Nid oes undyn byw a'i drigiad,
Ar y ddaiar is law'r lleuad,
Dinewidiad na difrycheu
Yn wastadol mwy na hitheu
Nid oes un yn be [...]ffeith holio [...]
Yn yr amser sydd bresennol,
Nid oes am hyn ond [...]yw mewn gobeith,
Hyd oni ddel yr amser perffeith.
Mae gynnyf achos fil o ddyddieu,
I alaru am fy meieu,
Ond ni fe [...]daf g [...]lon barod,
I alaru un d [...]wrnod.
Mawr yw'r dadleu yn y gw [...]edydd,
Yngh [...]h corph a chadac [...] crefydd,
O dam enaid o [...]fydd ddiddan,
Nid oes nemawr o ymddiddan.
Os gweli ddy y lled orphwyllo,
Na ch [...]tcam byt [...] àg efymeirio,
E daw a son ond dweyd ei gyfran,
Ni'mdeurodd un erioed ei hunan.
Mwy cristnogeidd a rhinweddol,
Ar ol syrhad neu gam ar [...]throl,
(Duw a ŵyr) ei iwyr anghofio,
Na cheisio talu'r pwyth am dano.
[86]
Y neb ni fedro fwynion eirieu,
A lledguddio'i ddigter weithieu;
Fe fydd hwn wrth lywodraethu,
Ben ynghad mewn gwlad a theulu,
Os digwydda it orthryn der.
Cam ac ammharch ammhorth prudd-der,
Cofia hyn a chymer g [...]ssur,
Mai gwell goddef [...]am na'i wne [...]thur.
Mi ddarllenais ddwad yn rhywfodd,
I'r byd hwn wyth ran ymadrodd,
Ac i'r gwr [...]gedd mawr lles iddyn,
Fynd a saith o'r wyth-ran rhyngthyn.
Gwell gan adyn llwyr-fal [...]h lled-ffol,
Fod yn Din-cerdd yn wast [...]dol,
Na dysgu bod yn Bencerdd hynod,
Gan un a fyddo gwell ei wybod.
Ynfyd gwr a ry-ddigofo,
Pan y rhoddir achos iddo;
Yn-yttach yw i wr ddigofi,
Heb ddim achos yn ei beri.
F'aeth rhai tadeu i Gehenna,
Am gasglu cyfoeth a cham elwa;
A'i plant eilwaith sy'n myrd yno,
Am eu gwasgar a'i cam dreulio
Edifeirwch at Dduw gwir-gu.
A ffydd tuag at ein Harglwydd Jesu.
Caru pob dyn fel ei hunan,
Dyna'r tri pheth rheidiaf allan.
Mae llawer gwr Duw a'i cymmortho,
A mawr eisieu cyfoeth arno;
[87]A llawer cyfoeth gan ryw adyn,
Ac eisieu gwr yn berchen arnyn.
Er bod Rhufain fawr yleni,
Yn cadw'r enw nen oedd arni;
E gollodd hon mae hynny'n ressyn,
Ei hen F [...]ydd ys llawer blwyddyn,
Mae rhai'n mynd i golledig'eth,
Am nad ynt yn credu un-peth;
Era'll ynt yn golledig [...]on,
O waith credu mwy na digon.
Eisieu mawr ar wlad y Cymro,
Yw cyfarch Duw a diolch iddo;
A mwy undeb yn ei Chaerydd,
Rhwng Athrawon y [...]ghyl [...]h crefydd.
Nid wrth lathen y mae [...]tti,
Fesur o fl [...]en Duw dy weddi;
Ond wrth bwys y mae i ti'n wastod,
Ddwad a hon o flaen y Drindod.
Oedi troiat Dduw yn fuan,
A phechu dros un orig fechan,
All ddwyn tristwch i'r fath adyn,
Na ddarfyddo lawer blwyddyn.
Mae rhai mor gelyd a chybyddol,
M [...]l pettaent i fyw'n dragwyddol;
A rhai eraill mor afradlon,
A phe baent i feirw'r awron.
Nl all tremiad y Planedeu,
Ddrwg i'r dyn sydd a'i feddylieu
Yn tueddu yn wastadol,
At weithredoedd da rhinweddol.
[88]
Lle bo cyfraith Duw'n weledig,
I enaid dyn i ffrwyno'i ryfyg,
Ni bydd ond awdurdod bychan,
Ar wŷnieu hwn gan Ser na Sattan.
Nid yw Brudiwr nes er gwybod.
Tynghedfen ddrwg heb allu'i rhagod;
Nid oes borth rhag hon a'i niwed,
Ond floi at Dduw i gael ymwared.
Y dyn y del i maes o'i eneu,
Betheu budron eu harogleu,
Mae'n argoel fod ei enaid heinus,
Yn ymborthi ar beth afiachus.
O ryfeloedd y byd ymma,
Goreu rhyfel ac ymwria,
Yw rhyfela ac ymorfod,
Am y Nef yn erbyn pechod.
Tra pheryclaf yw drwg ddynion
Yr amseroedd ac y byddon,
Gyda'r duwiol; a'i hwynebeu,
Oddi allan megis hwynteu.
Fal y bo llywiawdwyr dynion,
Yn eu moeseu a'i harferion;
Felly agos y bydd pob-dyn,
Ag a lywod [...]aethir ganthyn.
O'r Yscoldai a'r athrawon,
Sy'n y byd i d [...]yscu dynion;
Goreu yscol y yr holl-fyd,
I ddysgu dyn yw [...]scol acfyd.
Dan demestloedd a thrueni,
Y byd hwn a'i ddirfawr drychni,
[89]Goreu gwasgod ac ymgeledd,
Yw bodlonrhwydd ac amynedd.
Gofid rhai a'i dirfawr drallod,
Yw eu bod yn meddu gormod;
Gofid eraill a'u trallod [...]on.
Yw bod ganthynt lai na digon.
Am ddamweinieu y byd yma,
Doed helaethrwydd doed cysyngdra,
Doed gwaethygn'n lle mynd well-well,
Nid rhaid aros yntho'n neb-pell,
Amser sydd i dewi am bob-peth.
Ac amser sydd i dd'wedyd rhyw-beth;
Ond ni ellir cael un amser
I dd'weyd pob peth yn ddibryder.
Bu'n edif [...]r fil o weithieu,
Am lefaru gormod eirieu;
Ond ni bu gymmaint o beryglon.
O lefaru llai na digon.
Un o'r goreu o blant Adda,
Yw gweinidog ffyddlon purdda;
Un o'r gwaethaf o blant dynion,
Yw gweinidog drwg anffyddlon.
Nid yw deall dysg a donieu,
Heb gydwy [...]od dda'n ddiammeu,
Ond fal llysieu pêr sy'n trw [...]io,
Corph drewedig yn ei amdo.
Ni bydd y farn yn union union,
[...]le bo cariad gwressog ddigon;
[...]ac ychwaith lle bo dirieidi,
A chenfigen yn rheoli.
[90]
Lle bo cariad fe ganmolir,
Mwy ond od [...]d nag a ddylir;
A chenfigen a wyl feion,
Lle na byd o dîm achosion.
Os bydd i un fy nhwyllo unwaith,
Duw faddeuo i hwn ei ddrygwaith;
Ac o'm twylla ddwy o weithieu,
Maddeued D [...]w am hyn i minneu
Ei fai ef ei hun yn bennaf.
Oedd fy nhwy [...]lo i'r tro cyntaf;
A'm bai inneu oedd yr eil-dro,
Fod mor ffol a'm [...]d [...]ried iddo.
Os bydd arnaf elsieu rhyw-beth,
A so rheidiol i'm cynhaliaeth;
Y mae'r ce ydd er a feddo,
A mawr eisieu pob peth arno.
Myfi wn [...]yn hysbys ddigon.
Na bydd arnaf fawr ddiffygion;
Tra'r ymg [...]dwyf rhag yr arfer.
Sy'n y byd o chwenn ych llawer.
Rhoed Duw fynno immi yma,
Ped fai'n llawer llai na ngwala;
Deued ffynniant deued methu
Fe fydd gwell nag wyf yn haeddu.
Dyn yn cael ei anrhydeddu,
Heb ddoethineb yn ei feddu;
Sydd sal pren a fai'n blodeuo,
Heb ddim ffrwyth un amser arno.
Bydd ba [...]chedig it dy hunan,
Na wna'n ddirgel ddim yn un-man;
[91]Ond a fynnyt ei fynegi,
I'r un mwyaf wyt yn berchi.
Y Crocodil ar ol wylofain,
A ladd y dyn a ddalio'n gelain;
A llawer dyn a'i wylo oerllyd,
A huda'r llall i drangc anhyf [...]yd.
Nag [...]m [...]dir [...]d, clyw'th rybuddio,
I Estron byth os gel [...]i beidio;
Ni thwy [...]lwyd neb erioed yn ormodd,
Ond y gwr a ymddiriedodd.
Perchen t [...]fod a a [...]fero,
Ddweyd am bawb y peth a fynno;
Bydd rhaid iddo wrando'n fynych,
Lawer peth ni bo'n ei chwennych.
Y chwannoccaf i gael breinieu,
Yw'r yscafnaf ei f [...]ddylieu;
N [...] fyn hwnnw lai na blysio
Gradd nad yw hi'n addas iddo.
Drwg rhy hael a drwg rhy gybydd,
Drwg rhy drist a rhy lawenydd;
[...]fordd ganolig rhwng d [...]u o [...]mod.
Yw ffordd rhinwe [...]d glodfawr hynod,
Drwg rhy lwfr, drwg rhy ofnog,
Drwg rhy ddewr a rhy galonnog;
Nid da yw rhy o ddim yn un-modd,
Med iai ddo [...]thion yr hen oesoedd.
Pa wr bynnag a'r a fyddo,
A chyngor drwg an-nuwiol iddo:
Ni erys hwn yn ddiamryfus,
Nemawr iawn mewn ffordd ddaionus.
[92]
Na fydd farnwr rhwng Cyfeillion,
Ond cais ddwad a hwynt yn fodlon;
I gyttuno bob ychydig.
O deg a theg yn ddiddig ddiddig.
Odid mawr i undyn weled,
A'i ddeu lugad er eu lletted;
Trwy'r holl fyd beth mor hyderus,
Ag yw balchder anwybodus.
Y mae'n rhaid ir gwr a garo,
Gael y peth a fo'n ddymuno;
Yn ddyfal iawn a mynych mynych,
Wneuthur rhyw-beth gyda chwennych.
Dyn a'i dafod a weddio,
Ac heb wneuthur dim a'i ddwylo;
Ni wna'r fath dduwioldeb diog,
Reidus byth yn ddianghenog
Tra bendigaid fil o weithieu,
Ydyw'r addysg bur a'r moeseu;
Yn y Drefa'r wlnd a'r D'yrnas
A ddiwygi [...] nattur atgas.
Hwyr y daw i'r Nefoedd hyfryd,
Neb rhyw ddyn, pan ddarffo'i fywyd;
Sydd yn rhedeg ac wynebu,
Tra fo byw at Uffern orddu.
Ni bydd crefydd dda ragorol,
Yn ddaionus nac yn fuddiol;
I'r crefyddwr drwg a fyddo,
Heb un rhith daioni yntho.
E haera llawer dyn yn ddiball,
Fod gantho gariad mawr at arall;
[93]Heb fwriadu minwedd fechan,
Ond ei les a'i [...]ûdd ei hunan.
Gwaethaf un o'r holl wyllt fulod,
Yw'r absenwr drwg ei d [...]fod;
Ac o'r rhai dof medd pawb gan mwyaf
Y gwenia thwr yw'r enbyttaf.
Y deall sy flaenor ac yn benaeth,
Yn ysgoldy pob dysgeidiaeth;
Ond yr wllys mewn gwirionedd,
Sy'n c [...]dw'r blaen vn yscol rhinwedd.
[...] mae Sattan tad y pechod,
[...]u hwnt i neb rhyw ddyn ar wybod;
O [...]d ni fyn o wir ddirieidi,
[...] Wneuthur mymryn o ddaioni.
[...] thebyccaf peth i Sattan,
Ond bydd e y [...]o'i hunan;
[...]w rhith gristion tra gwybodol,
A fo'n byw yn a [...]ghristnogol.
[...] am dda sydd [...] rhessymol.
[...]wg am ddrwg sydd anghristnogol;
[...]wg am dda sydd dra chythreulig:
[...] am dd [...]wg sydd fendigedig.
[...] hwn ni choelia Dduw pan fyddo,
[...] gorchymyn ac yn addo;
[...]gaiff goelio'r pen diweddaf,
[...] Holl fygythion y goruchaf.
[...]chel fostio'n fynych fynych.
[...] gweithredoedd goreu feddych:
[...]ag cael dannod it yn rhy-dost,
Y gweithredoedd gwaetha'wnaethoft.
[94]
Pob gwatwarwr gwnaed [...] allo,
O hir watwar a hir wawdio;
A gyferfydd yn ddiammeu,
A rhyw un ali gwatwar ynteu
Na chais byth os wyt ddeallus,
Gyfiawnhau un tro drygionus:
E wna hyn o weithred ddifraint,
Hyd y camwedd y dau cymaint.
Jaco ab Dew
Y Byd a syrthiodd mewn bâr, bwriad [...]
A'r brodyr nid ymgar:
Am y golud mae galar,
Gelyn gan gorlyn ei gâr
Un doeth gwiwg foeth a gofia, gyngo [...]
Rhag angen a dirdra:
Ac un annoeth gwn yna,
Er dim, ni wna gyngor da

Mawl i'r Llyfr.

GWel Gymro euro Araith, Ardderch
Dd [...] orchest Prydyddiaith,
Bur ddidwyll y Beirdd odiaith,
Blaid y Gerdd a blodeu'u gwaith.
Angeurhald Enaid daioni, yr laith
O'r eithaf fu'n colli;
A gwiw lwyddiant gael iddi,
Iawn gymmorth iw hymborth hi.
Sion Rhydderch [...]
DIWEDD.
Distributed by the University of Oxford under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 Unported License